Roedd maes awyr Heathrow wedi gweld gostyngiad o  72.7% yn nifer y teithwyr y llynedd.

Dim ond 22.1 miliwn o bobl oedd wedi teithio drwy’r maes awyr yn Llundain yn 2020, gostyngiad o 58.8 miliwn o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Roedd y gostyngiad o ganlyniad i effaith y pandemig.

Ym mis Rhagfyr, roedd nifer y teithwyr wedi gostwng 82.9% i 1.1 miliwn yn dilyn amrywiolyn newydd o Covid-19.

Dywedodd prif weithredwr Heathrow John Holland-Kaye: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i’r diwydiant hedfan.

“Tra ein bo’n ni’n cefnogi tynhau rheoliadau ffiniau dros dro drwy gynnal profion ar deithwyr rhyngwladol cyn iddyn nhw deithio, yn ogystal â chwarantin, nid yw hyn yn gynaliadwy.

“Y diwydiant hedfan yw conglfaen economi’r Deyrnas Unedig ond mae’n brwydro i oroesi. Mae’n rhaid i ni gael llwybr clir allan o’r cyfnod clo a chael gwared a threthi busnes.

“Mae hyn yn gyfle i’r Llywodraeth ddangos arweiniad a chreu safon ryngwladol ar gyfer profion cyn teithio a fydd yn caniatáu i deithio a masnach ail-ddechrau’n ddiogel.”

Fe fydd teithwyr sy’n cyrraedd ar long, trên neu awyren – gan gynnwys dinasyddion y DU 0 yn gorfod cael prawf 72 awr cyn gadael y wlad maen nhw ynddi.

Mae disgwyl i’r rheolau newydd ddod i rym yn ddiweddarach yr wythnos hon.