Yn yr Unol Daleithiau, mae llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr Nancy Pelosi, wedi dweud eu bod yn barod i fwrw ymlaen â deddfwriaeth i uchelgyhuddo’r Arlywydd Donald Trump.
Fe wnaeth Nancy Pelosi’r cyhoeddiad mewn llythyr ddydd Sul (Ionawr 10). Mae’n dilyn terfysgoedd yn Capitol Hill yn Washington ar ol i Donald Trump annerch torf y tu allan i’r Tŷ Gwyn ac ail-adrodd honiadau am dwyll etholiadol.
Dywedodd Nancy Pelosi y bydd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn gweithredu ar frys, gyda dim ond dyddiau’n weddill cyn y bydd Donald Trump yn gadael ei swydd ar Ionawr 20.
“Wrth ddiogelu ein Cyfansoddiad a’n Democratiaeth, byddwn yn gweithredu ar frys, oherwydd mae’r Arlywydd hwn yn fygythiad i’r ddau,” meddai.
Dywedodd Nancy Pelosi y bydd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn ceisio gorfodi’r is-Arlywydd Mike Pence a’r Cabinet i ddisodli Donald Trump drwy weithredu’r pumed gwelliant ar hugain.
Ddydd Llun (Ionawr 11), bydd arweinwyr Tŷ’r Cynrychiolwyr yn cymryd camau i basio’r ddeddfwriaeth yn gyflym er mwyn gwneud hynny.
Os caiff ei rwystro gan y Gweriniaethwyr, sydd bron yn sicr, bydd y Tŷ’n ymgynnull ar gyfer pleidlais lawn ddydd Mawrth (Ionawr 12).
Esboniodd Nancy Pelosi ei bod yn galw ar yr Is-Arlywydd Mike Pence i “weithredu’r pumed gwelliant ar hugain er mwyn datgan nad yw’r Arlywydd yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau”.
O ganlyniad, byddai’r is-Arlywydd “yn cymryd drosodd fel Arlywydd ar unwaith”, ysgrifennodd.
Galw ar Donald Trump i ymddiswyddo
Gyda chynlluniau uchelgyhuddo’n dwysáu, dywedodd dau seneddwr Gweriniaethol eu bod am i Donald Trump ymddiswyddo ar unwaith yn sgil terfysgoedd mawr yn Washington.
Bu farw pump o bobl yn ystod protestiadau treisgar gan gefnogwyr Donald Trump wrth iddyn nhw geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres yn Washington.
Roedd y Senedd yn y broses o gymeradwyo canlyniad yr etholiad arlywyddol pan ddechreuodd cannoedd o brotestwyr wthio heibio swyddogion yr heddlu, torri ffenestri a chwifio baneri’r Unol Daleithiau.
“Mae’n gwbl hanfodol bod y rhai a gyflawnodd yr ymosodiad ar ein democratiaeth yn cael eu dwyn i gyfrif,” ysgrifennodd Nancy Pelosi. “Rhaid cydnabod bod yr Arlywydd wedi dechrau hyn.”
Mae’r ymdrech Ddemocrataidd i uchelgyhuddo Donald Trump — am yr eildro — wedi datblygu’n gyflym ers y terfysgoedd.
Dyma fyddai’r tro cyntaf i Arlywydd o’r Unol Daleithiau gael ei uchelgyhuddo ddwywaith.