Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am frechlynnau wedi dweud y bydd 15 miliwn o bobl yn cael gwybod bod brechlyn ar gael ar eu cyfer erbyn canol mis Chwefror.

Dywedodd Nadhim Zahawi wrth Sky News y bydd y pedwar categori uchaf – 15 miliwn yn y Deyrnas Unedig – wedi cael cynnig brechlyn erbyn y cyfnod yma.

Wrth ddisgrifio’r gwahaniaeth rhwng cael cynnig brechlyn a chael brechlyn, dywedodd Nadhim Zahawi: “Pan dych chi’n cynnig brechlyn dyw hynny ddim yn golygu cael llythyr y Post Brenhinol, mae’n golygu bod y brechlyn a’r nodwydd yn barod i chi.

“Yr hyn fyddwn ni’n ei gyhoeddi yw cyfanswm y bobl sydd wedi cael eu brechu nid y rhai sydd wedi cael cynnig brechlyn.”

Brechlyn ‘ddim yn orfodol’

Serch hynny, meddai, ni fydd y brechlyn yn orfodol, gan y byddai gorfodi pobl i’w dderbyn yn “hollol anghywir – nid oes gynnon ni’r math yna o werthoedd yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth Times Radio.

“Ry’n ni eisiau i bobl weld gwerth y brechlyn… iddyn nhw a’u cymunedau. Y funud ry’ch chi’n dweud wrth bobl ei fod yn orfodol mi fydd gynnoch chi rai yn dweud, ‘wel, dw i ddim eisiau cael y brechlyn,’ a dyna pam ry’n ni wedi defnyddio’r gair cynnig.”

Fe awgrymodd Nadhim Zahawi y gallai swyddogion yr heddlu, athrawon a gweithwyr allweddol eraill “fod yng nghategori uchaf rhan dau” y cynllun brechi.

Mae’r gweinidog hefyd wedi annog y cyhoedd i ddilyn y rheolau, gwisgo mygydau a dilyn llwybrau unffordd mewn archfarchnadoedd.

“Dy’n ni ddim eisiau tynhau’r rheolau oherwydd mae’r cyfnod clo yma’n eitha’ llym ond ry’n ni angen i bobl ymddwyn fel bod ganddyn nhw’r firws fel ein bod ni’n gallu dod a’r firws dan reolaeth wrth i ni frechu.”

‘Wythnosau gwaethaf y pandemig’

Yn y cyfamser mae prif swyddog meddygol Lloegr wedi rhybuddio mai’r wythnosau nesaf “fydd wythnosau gwaethaf y pandemig” i’r Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd yr Athro Chris Whitty wrth BBC Breakfast: “Yn ystod mis Ebrill y llynedd roedd gynnon ni tua 18,000 o bobl [yn cael triniaeth] yn y GIG. Ar hyn o bryd, mae mwy na 30,000 o bobl yn y GIG. Wythnos yn ôl roedd prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dweud ‘mae hyn yn mynd i fod yn argyfwng sylweddol i’r GIG oni bai ein bod ni’n gweithredu i’w osgoi.”

“Mae’r amrywiolyn newydd yma yn rhoi pwysau ar bethau mewn ffordd nad oedd yr hen amrywiolyn yn gwneud.

“Felly mae gynnon ni broblem sylweddol iawn… Mae’r wythnosau nesaf yn mynd i fod yr wythnosau gwaethaf yn ystod y pandemig o ran niferoedd yn y GIG.”