Fe fydd cynllun brechu Covid “uchelgeisiol” yn cael ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw (dydd Llun, Ionawr 11).
Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi cyfres o gerrig milltir ar gyfer pryd bydd pobl yn cael cynnig brechlyn, meddai. Bydd y cynllun hefyd yn disgrifio sut bydd yr holl oedolion cymwys yn cael eu brechu yn “y rhaglen fwyaf o’i bath”.
O heddiw ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi ffigyrau brechu dyddiol. Roedd mwy na 70,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid erbyn diwedd yr wythnos ddiwethaf.
Daw’r addewid ar ôl i’r Deyrnas Unedig wynebu rhybuddion difrifol, gyda chynnydd sylweddol mewn achosion o Covid ac ysbytai yn gwegian dan y pwysau ychwanegol. Mae beirnadaeth hefyd bod Cymru ymhell y tu ol i weddill y Deyrnas Unedig o ran rhoi’r brechlyn.
Mae achosion o’r coronafeirws yng Nghymru yn “achos pryder difrifol” yn ôl cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul (Ionawr 10) tra bod Prif Swyddog Meddygol Lloegr Chris Whitty wedi dweud mai’r unig ffordd i osgoi marwolaethau yw aros adref os yw hynny’n bosib, wrth i’r Gwasanaeth Iechyd wynebu’r “sefyllfa fwyaf peryglus” mewn cof.
Yn yr Alban, dywedodd y dirprwy Brif Weinidog John Swinney bod y wlad yn wynebu “sefyllfa bryderus iawn” oherwydd y firws ac yng Ngogledd Iwerddon mae penaethiaid iechyd wedi dweud y bydd nifer y cleifion Covid-19 yn dyblu erbyn trydedd wythnos mis Ionawr.
“Carreg filltir”
Daw’r rhybuddion wrth i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock amlinellu cynllun brechu’r Llywodraeth gan ei ddisgrifio fel “carreg filltir” yn y frwydr yn erbyn y pandemig.
Mae hyd at 2 filiwn o bobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn hyd yn hyn gyda’r union ffigwr yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.
Mae Llywodraeth San Steffan yn gobeithio y bydd 14 miliwn o bobl fregus wedi cael eu brechu erbyn canol mis Chwefror. Y gobaith yw y bydd pob oedolyn wedi cael cynnig brechlyn erbyn yr hydref.
Mae disgwyl i Matt Hancock fanylu am y cynllun mewn cynhadledd newyddion yn Downing Street bnawn dydd Llun.