Mae Llywodraeth yr Alban yn gwadu honiadau’r cyn-brif weinidog Alex Salmond fod aelod o staff ei olynydd Nicola Sturgeon wedi datgelu enw dynes oedd wedi gwneud cwyn am ei ymddygiad rhywiol.

Yn ôl y llywodraeth, “anwiredd” yw’r honiadau.

Daw’r honiadau mewn dogfen sydd wedi’i chyflwyno gan Alex Salmond i’r ymchwiliad i’r modd y gwnaeth Llywodraeth yr Alban ymdrin â’r cwynion yn ei erbyn.

Mae’r ddogfen wedi’i chyhoeddi’n llawn gan The Spectator.

Mae Alex Salmond yn dweud bod Liz Lloyd, pennaeth staff Nicola Sturgeon, wedi datgelu enw un o’r menywod oedd wedi cwyno amdano, a hynny yn ystod cyfarfod â’i gyn-bennaeth staff yntau, Geoff Aberdein.

Yn ôl Llywodraeth yr Alban, fe wnaethon nhw “warchod” hunaniaeth y bobol dan sylw “drwyddi draw”.

Mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn galw am ddiswyddo Liz Lloyd os yw’r honiadau’n wir, gan alw ar Nicola Sturgeon i ddweud un ffordd neu’r llall.

Mae Llywodraeth yr Alban yn dweud bod Nicola Sturgeon yn cadw at ei thystiolaeth wreiddiol.