Mae dyn wedi lladd saethu tri o bobol yn farw ac wedi anafu pedwar arall mewn cyfres o ymosodiadau yn Chicago.

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau yn rhannau deheuol y ddinas, ac fe ddaethon nhw i ben wrth i’r heddlu ei saethu’n farw mewn maes parcio yn ardal ogleddol y ddinas.

Mae’r heddlu’n ceisio darganfod pam fod yr ymosodiadau, oedd wedi dechrau gyda llofruddiaeth myfyriwr 30 oed yn ei gar ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 10), wedi cael eu cyflawni.

O’r fan honno, aeth Jason Nightengale, 32, yn ei flaen “ar hap” i adeilad o fflatiau a saethu swyddog diogelwch 46 oed yn farw, a gadael dynes 77 oed oedd yn casglu ei phost mewn cyflwr difrifol.

Mewn adeilad arall, fe wnaeth e ddwyn cerbyd dyn roedd e’n ei adnabod cyn gyrru i siop a saethu dyn 20 oed yn farw ac anafu dynes 81 oed ac mae hi bellach mewn cyflwr difrifol hefyd.

Ar ôl gadael y siop, saethodd e at ferch 15 oed oedd yn teithio mewn car gyda’i mam, ac mae hi hefyd mewn cyflwr difrifol.

Dychwelodd e i’r siop wedyn ac roedd yr heddlu yno’n ymchwilio i’r ymosodiadau cychwynnol.

O’r fan honno, fe wnaeth e yrru i Evanston ar gyrion Chicago, lle’r oedd yr heddlu’n ymateb i adroddiadau o achos o saethu’n gynharach.

Roedd e wedi cerdded i mewn i’r siop honno gan ddweud ei fod e am ladrata, ac fe ddechreuodd e saethu ar hap ond wnaeth e ddim taro unrhyw un.

Fe wnaeth e groesi’r stryd i fwyty wedyn, a saethu dynes sydd mewn cyflwr difrifol.

Gadawodd e’r bwyty a chael ei amgylchynu gan yr heddlu mewn maes parcio cyn cael ei saethu’n farw.