Mae seneddwr gweriniaethol yn dweud bod ymddygiad yr Arlywydd Donald Trump yn haeddu cael ei uchelgyhuddo.
Mae’r Democratiaid yn galw am uchelgyhuddo Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dilyn protestiadau treisgar yn y Capitol yn Washington, a’i ran ynddyn nhw wrth annog cefnogwyr y Gweriniaethwyr i weithredu yn erbyn buddugoliaeth arlywyddol Joe Biden.
Mae Trump yn dal i fynnu twyll etholiadol, ddeng niwrnod cyn i Joe Biden gael ei urddo’n arlywydd.
Er ei sylwadau, dydy Pat Toomey ddim wedi dweud a fyddai’n cefnogi dwyn achos yn ei erbyn a’i symud o’i swydd ar ddiwedd ymchwiliad seneddol.
Mae’n dweud ei fod yn ofni y byddai gwleidyddion yn ceisio “elwa’n wleidyddol” o’r helynt.
Ond mae’n galw ar Donald Trump i gamu o’r neilltu er lles yr Unol Daleithiau, gan ddweud mai dyna fyddai’r “llwybr gorau ymlaen, y ffordd orau o gael y person hwn yn y drych ôl i ni”, er nad yw’n obeithiol y bydd hynny’n digwydd.
Pat Toomey yw’r ail Weriniaethwr ar ôl Lisa Murkowski, seneddwr Alaska, i alw am ymddiswyddiad yr arlywydd.
Y Democratiaid
Mae disgwyl i’r Democratiaid gyflwyno’u hachos yfory (dydd Llun, Ionawr 11), ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno dogfennau cychwynnol os ydyn nhw am uchelgyhuddo’r arlywydd.
Yna, gallai pleidlais gael ei chynnal ddydd Mercher (Ionawr 13), wythnos union cyn i Joe Biden ddod yn arlywydd.
Pe bai’r dogfennau’n cael eu derbyn, bydden nhw’n cael eu trosglwyddo i’r Senedd am wrandawiad, a byddai seneddwyr yn cael yr arlywydd yn euog neu’n ddieuog o’r cyhuddiadau.
Pe bai’r seneddwyr yn ei gael yn euog, fe fyddai’n cael ei symud o’i swydd ar unwaith a’i ddirprwy Mike Pence yn dod yn arlywydd.