Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau ymgynghoriad chwe wythnos o hyd i gau Ysgol Mynydd-y-Garreg ger Cydweli.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi disgrifio’r penderfyniad i gynnal yr ymgynghoriad tra bod yr ysgol ar gau oherwydd y pandemig fel un “arbennig o greulon”, ac ei bod hi’n “wythnos dywyll i’r Gymraeg yn Sir Gâr”.

Ychwanegodd Bethan Williams fod y gymdeithas leol yn cymryd cyngor cyfreithiol i weld a oedd hawl gan y Gweinidog Addysg ddefnyddio pwerau argyfwng i ddiwygio Cod Trefniadaeth Ysgolion i ganiatáu cynnal ymgyngoriadau er bod ysgolion ar gau.

Ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at y Gweinidog Addysg i “fynegi siom a syndod” am y penderfyniad yr wythnos ddiwethaf.

‘Diffyg cyllideb’

Mae dogfen ymgynghori gan y cyngor sir yn dangos bod diffyg cyllideb, niferoedd isel o ddisgyblion, a thoriadau i’r gyllideb wedi rhoi’r ysgol mewn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd, ac mae’n parhau i fod â diffyg o £48,265 ar gyfer 2020/21.

Er bod 113 o ddisgyblion yn byw yn nalgylch yr ysgol gynradd dim ond 22 o’r disgyblion hynny sy’n mynychu’r ysgol.

Mae 36 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd ond mae 35% yn is na chapasiti’r ysgol.

‘Torcalonnus’

“Yn ogystal â gorfod ymdrin â chaledi’r pandemig, mae’r gymuned leol yn awr yn gorfod wynebu colli’r ysgol sy’n ganolbwynt i fywyd diwylliannol  a chymdeithasol Cymraeg y pentre,” meddai Bethan Williams ar ran y Gymdeithas yn lleol.

“Mae’n dorcalonnus iddyn nhw, a does dim modd trefnu ymgyrch dorfol i amddiffyn yr ysgol fel a wnaed mor effeithiol gan Ray Gravell yn ôl yn 2006.

Gall hyn fod yn ergyd i’r Gymraeg oherwydd gallai rhieni yn y dyfodol anfon eu plant i ysgol gyfrwng-Saesneg pe bai ysgol y pentre’n cau.”

Wrth asesu’r effaith ar y Gymraeg mae’r ymgynghoriad yn dweud y bydd y cynnig yn rhoi mwy o gyfleoedd i gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Cydweli a Mynyddygarreg “gan sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Ffrae am addasu’r Côd Trefniadaeth Ysgolion dros dro

Daw hyn wedi cyhuddiad o dorri’r Côd gan beidio rhoi amser digonol i ymgynghoriad ar gau Ysgol Abersoch