Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, i weithredu ar ôl i aelod Ceidwadol o’r Senedd “wrthod ymddiheuro” am ei sylwadau am derfysg Washington.

Cafodd Andrew RT Davies, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd bellach yn llefarydd iechyd, ei feirniadu wythnos diwethaf am gymharu protestwyr yn adeilad y Gyngres yn yr Unol Daleithiau i bobl oedd yn cefnogi ail refferendwm Brexit.

“Wnes i ddim postio Tweet oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod y bobl a bleidleisiodd i aros [yn yr Undeb Eropeaidd] yr un fath â’r bobl yn Washington,” meddai Andrew RT Davies wrth BBC Cymru.

“Roedd y bobl yn Washington a’r gweithredoedd a wnaethant yn gwbl ffiaidd, fel y dywedais ar Twitter.

“Roeddwn yn cyfeirio fy sylwadau’n uniongyrchol at arweinydd yr wrthblaid, Keir Starmer, a oedd am dair blynedd a hanner o’r farn ei fod eisiau gwrthdroi canlyniad y refferendwm. Mae hwnnw’n ddatganiad o wirionedd a ffaith na ellir ei wadu.”

Roedd rhai o fewn y blaid Geidwadol yn ogystal â’r blaid Lafur wedi galw arno i ymddiswyddo.

‘Gosod esiampl’

Yn ôl Eluned Morgan mae dyletswydd ar wleidyddion i fod yn gyfrifol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn “gosod esiampl”.

Mae Eluned Morgan a Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, Angela Rayner AS wedi galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, i weithredu.