Gall pobl sydd eisoes wedi’u heintio a Covid-19 fod ag imiwnedd am o leiaf bum mis ond fe allen nhw hefyd drosglwyddo’r firws at bobl eraill, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai canran fechan o’r rhai sy’n ddiogel rhag cael eu heintio eto fod a’r firws yn eu trwyn neu lwnc ac felly yn peri risg o heintio pobl eraill.
Mae’r astudiaeth Siren gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dangos bod gwrthgyrff mewn person sydd wedi cael eu heintio yn y gorffennol yn rhoi amddiffyniad o 83% rhag cael eu heintio eilwaith am o leiaf bum mis.
Mae hynny yn awgrymu y gallai pobl oedd wedi cael eu heintio yn ystod ton gyntaf y coronafirws yn wynebu risg o gael eu heintio eto.
Er bod ail-heintiad ymhlith pobl sydd â gwrthgyrff yn anghyffredin, roedd ymchwilwyr wedi darganfod bod 44 ymhlith 6,614 o’r rhai oedd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth o bosib wedi cael eu heintio ddwywaith.
Yn ôl yr Athro Susan Hopkins, sy’n arwain astudiaeth Siren mae’n rhoi’r “darlun mwyaf clir hyd yn hyn o natur amddiffyniad y gwrthgyrff yn erbyn Covid-19 ond mae’n hanfodol bwysig nad yw pobl yn camddeall y canfyddiadau cynnar yma.
“Ry’n ni bellach yn gwybod bod y rhan fwyaf o’r rhai sydd wedi cael y firws ac wedi datblygu gwrthgyrff wedi’u diogelu rhag cael eu heintio eto ond nid yw hyn yn hollol sicr a dy’n ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd pa mor hir mae’r amddiffyniad yma yn parhau.”
Ers mis Mehefin mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi bod yn cynnal profion ar ddegau ar filoedd o weithwyr iechyd ar draws y Deyrnas Unedig.