Mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn dweud ei fod yn disgwyl ymchwiliad “trylwyr” i farwolaeth Mohamud Mohammed Hassan, dyn 24 oed fu farw oriau’n unig ar ôl gadael dalfa’r heddlu yng Nghaerdydd.

Roedd y prif weinidog yn ymateb i gwestiwn yn y Senedd gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ac fe ddywedodd fod yr adroddiadau’n “destun pryder dwys”.

Cefndir

Cafodd Mohamud Mohammed Hassan, 24, ei arestio nos Wener (Ionawr 8) yn dilyn adroddiadau gan gymdogion fod yna ddigwyddiad mewn eiddo.

Cafodd ei gludo i’r ddalfa ym Mae Caerdydd a’i ryddhau’n ddi-gyhuddiad y diwrnod canlynol.

Bu farw’n ddiweddarach nos Sadwrn (Ionawr 9).

Roedd tystion wedi cael sioc o weld ei gyflwr ar ôl iddo adael y ddalfa, gan dweud bod gwaed ar ei ddillad a bod ganddo fe anafidau difrifol a chleisiau.

Mae Adam Price yn dweud bod yna gwestiynau i’w hateb, gan gynnwys pam iddo gael ei arestio, beth ddigwyddodd wrth i’r heddlu ei arestio, a oedd ganddo fe gyfreithiwr yn bresennol, a wnaeth yr heddlu ofalu amdano a pham iddo farw.

Ymateb Mark Drakeford

“Dw i’n deall fod yr heddlu eisoes wedi trosglwyddo’r mater hwn, fel y bydden nhw’n ei wneud, i wasanaeth annibynnol ymchwiliad yr heddlu,” meddai Mark Drakeford.

“Rhaid mai cam cyntaf unrhyw ymchwiliad yw eu galluogi nhw i wneud eu gwaith.

“Dw i’n llwyr ddisgwyl i hynny gael ei wneud yn drylwyr a chydag anniyniaeth lawn a gweledol.

“Dw i’n falch fod y teulu wedi sicrhau cymorth cyfreithiol er mwyn cael mynd ar ôl eu pryderon dealladwy iawn ac os oes yna bethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, byddaf yn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r rheiny’n iawn heb achosi rhagfarn o gwbl, fel y dywedodd yr aelod, i ganlyniad yr ymchwiliadau annibynnol y mae angen eu dilyn nawr.”

 

Dyn 24 oed wedi marw’n sydyn ar ôl bod yn y ddalfa yng Nghaerdydd

Heddlu De Cymru yn cadarnhau bod Mohamud Mohammed Hassan wedi treulio noson mewn gorsaf heddlu cyn cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref