Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill £1m mewn grantiau ymchwil Sêr Cymru i fynd i’r afael â heriau’r coronafeirws.
Mae 14 gwobr Llywodraeth Cymru yn rhychwantu tri choleg y Brifysgol ac yn canolbwyntio ar amrywiaeth o atebion – o ddefnyddio catalysis newydd ar gyfer diheintio arwynebau i barhad dysgu digidol yng Nghymru.
Daw’r gwobrau mwyaf gyda chyllid i archwilio technolegau newydd ar gyfer profion-pwynt-gofal genetig ar gyfer SARS-CoV-2 a gweithio i ddatblygu pilenni hidlo firysau actif.
Ar flaen y gad
“Mae prifysgolion Cymru wedi bod ar flaen y gad yn yr ymateb i Covid-19, gan ddatblygu atebion i’r llu o heriau y mae’r pandemig wedi’u cyflwyno,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.
“Mae prosiectau Prifysgol Caerdydd yn seiliedig ar arbenigedd ar draws disgyblaethau sbectrwm eang, o firoleg ac imiwnoleg i ddiagnosteg a gwyddoniaeth ymddygiad, gan gynnig potensial gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn firws.”
“Bydd cyllid trwy alwad Sêr Cymru – Mynd i’r Afael â COVID-19 yn caniatáu i ymchwilwyr ddatblygu cynigion newydd a allai gyfrannu at, neu hybu datblygiad ymchwil sy’n effeithio ar COVID-19, gan osod y sylfeini ar gyfer cynigion mwy i ffrydiau cyllido eraill,” meddai’r Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.
Ymysg y gwobrau ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg mae:
- £141,869.00 ar gyfer technolegau newydd ar gyfer profion-pwynt-gofal genetig ar gyfer SARS-CoV-2.
- £102,201.00 ar gyfer monitro Dŵr Gwastraff a Gwyliadwriaeth Amgylcheddol SARS-CoV-2/COVID-19 gan ddefnyddio Dulliau Metafiromig.
- £60,243.00 ar gyfer defnyddio astudiaethau strwythurol i archwilio sut y gall dderbynyddion celloedd-T (TCRs) wedi’u rhwymo i beptid-MHC dosbarth II (pMHC-II) lywio dyluniad brechlyn COVID-19.
- £70,587.00 ar gyfer potensial diagnostig a therapiwtig ADCC ar gyfer COVID-19.
- £62,634.00 ar gyfer modelu mathemategol a haenau craff: ymladd yn erbyn pandemig COVID-19.
- £81,304.00 ar gyfer diheintio arwynebau gan ddefnyddio catalysis newydd.
- £124,227.00 ar gyfer Pilenni Hidlo Firysau Actif.