Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi bod Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yn ailagor, gyda chleifion yn cael eu trosglwyddo i’r ysbyty yr wythnos hon.

Bu’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gau’r ysbyty ychydig dros fis yn ôl oherwydd cyfyngiadau pandemig y coronafeirws ar y gweithlu.

Ers cau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud gwaith adfer sylweddol yn yr ysbyty, gan gynnwys atgyweirio ac adnewyddu waliau a lloriau.

Cafodd y safle ei lanhau’n drylwyr hefyd, sydd wedi caniatáu i’r ysbyty gael ei ailagor fel cyfleuster heb Covid-19, neu ‘Safle gwyrdd’.

Ymateb

“Y bwriad o’r cychwyn oedd cau Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri dros dro, felly rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi ei ailagor,” meddai Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymuned a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Er ein bod wedi cwblhau llawer o waith adfer yn llwyddiannus, mae angen gwneud rhai gwaith hanfodol pellach, a dyna pam mae’r ysbyty wedi ailagor i ddechrau gydag wyth gwely, gyda thri gwely arall i fod i agor ddechrau mis Chwefror.

“Yn flaenorol, roedd gan yr ysbyty le i 16 o gleifion, ond oherwydd canllawiau pellhau cymdeithasol, bydd yr ysbyty cymunedol yn gweithredu yn y pen draw ar gapasiti o 14 gwely, ond bydd hyn yn dibynnu ar wneud gwaith pellach yn ddiweddarach eleni.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned yn Llanymddyfri a’r dalgylch am eu dealltwriaeth a chefnogaeth barhaus.”