Mae Cyngor Sir Ynys Môn eisiau recriwtio mwy o ofalwyr gan y gallai’r coronafeirws gael effaith fawr ar lefelau staffio cartrefi gofal a sefyllfaoedd gofal cymdeithasol.
O ganlyniad, bydd y Cyngor yn mynd ati i geisio recriwtio mwy o ofalwyr er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw allu delio ag unrhyw broblemau.
Mae’r Cyngor yn apelio am unigolion sydd â phrofiad o ofalu, neu sydd wedi gweithio mewn cartref gofal o’r blaen, neu sydd wedi gofalu am aelod o’u teulu.
“Mae effaith y Coronafeirws ar gartrefi gofal y Cyngor a chartrefi gofal preifat wedi bod yn syfrdanol,” meddai Fôn Roberts, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
“Fodd bynnag, mae ein holl ofalwyr yn parhau i wneud gwaith rhagorol wrth iddynt ofalu am ein trigolion oedrannus a bregus a hynny o dan amgylchiadau hynod o anodd.”
‘Mae ein dyled yn fawr’
“Mae ein dyled ni’n fawr i’r holl staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio ar draws yr ynys,” meddai Llinos Medi, arweinydd y Cyngor Sir sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol.
“Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hwn yn ein darparu â’r staff sydd eu hangen arnom yn ein cartrefi gofal ac i gynorthwyo’r trigolion hynny yn ein cymuned sydd heb neb i’w helpu, petai nifer yr achosion yn parhau i gynyddu ar Ynys Môn.
“Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio i gysylltu cyn gynted â phosibl.”