Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau diogelwch adeiladau newydd gan ddweud y byddan nhw’n rhoi llais cryfach i breswylwyr ar faterion sy’n effeithio eu cartrefi.

Pe bai’r diwygiadau yn cael eu pasio gan y Senedd, byddai gan Gymru’r drefn diogelwch adeiladau fwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau yn cynnwys pob adeilad preswyl aml-feddiannaeth, ac ynddo mae Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru yn amlinellu diwygiadau mawr i’r ffordd y caiff eiddo eu dylunio, eu hadeiladu, eu rheoli, yn ogystal â’r ffordd rydym yn byw mewn eiddo.

Y diwygiadau

Mae’n fwriad i’r diwygiadau roi sylw i ddiogelwch ar bob cam yn oes adeilad, a chynnig trywydd clir o ran atebolrwydd ar gyfer perchnogion a rheolwyr adeiladau, yn ogystal â chyflwyno system reoleiddio gryfach.

Ynghyd â hynny, mae’n cynnwys:

  • trywydd clir o ran atebolrwydd, gan bennu unigolion fydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddiogelwch, ac am leihau’r risg o dân yn ystod oes yr adeilad
  • rhaglen wirio well yn ystod y gwaith adeiladu
  • dyletswydd fod adeiladau yn meddu ar y gallu i gyfyngu tân i’r lle ddechreuodd y tân am ddigon o amser iddo allu cael ei ddiffodd
  • dull cwbl newydd o nodi a lleihau’r risg o dân mewn blociau o fflatiau
  • proses i’w gwneud yn bosib i breswylwyr godi pryderon ynghylch diogelwch adeiladau
  • un broses ar gyfer uwchgyfeirio pryderon ar y rheoleiddiwr
  • creu dau gategori risg, un ar gyfer adeiladau sy’n uwch na 18m o daldra, a llall ar gyfer rhai is na 18m o daldra.

Fis Ionawr y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wahardd y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy mewn systemau cladin.

“Angen newidiadau llawer mwy sylfaenol”

“Yn sgil y drasiedi yn Nhŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i wneud adeiladau’n fwy diogel i breswylwyr,” meddai Julie James, Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru.

“Mae wedi bod yn eglur erioed, fodd bynnag, bod angen newidiadau llawer mwy sylfaenol i wella diogelwch adeiladau yn gyffredinol.

“Dyna pam rydym yn cynnig gwelliannau i bob cam yn oes adeiladau amlfeddiannaeth, o’u dylunio, drwy eu adeiladu ac i’w meddiannu, fel bod adeiladau newydd yn ddiogel i bob preswylydd.

“Yn bwysicaf oll, mae’r cynigion hyn wedi’u llunio i rymuso preswylwyr drwy roi llawer mwy o lais iddynt yn y materion sy’n effeithio ar eu cartrefi a thrwy ddarparu llwybrau clir iddynt fynegi pryderon a rhybuddio’r rhai sy’n gyfrifol pan aiff pethau o chwith,” eglurodd.

“Rhaid i’r rhai sy’n berchen ar ein hadeiladau ac sy’n eu rheoli gadw at eu rhwymedigaeth i gywiro pethau.

“Bydd y cynigion hyn, os cânt eu gwneud yn gyfraith yn nhymor nesaf y Senedd, yn creu cyfundrefn newydd, a llawer gwell, sy’n rhoi diogelwch preswylwyr yn gyntaf.”