Mae undeb y Frigâd Dân yn dweud nad yw’r gwaharddiad ar gladin ar adeiladau uchel yng Nghymru’n mynd yn ddigon pell.

Fe fydd y gwharddiad ar gladin ffrwydrol ar waliau allanol sy’n fwy nag 18 metr yn dod i rym ar Ionawr 13 y flwyddyn nesaf.

Fe fydd yn berthnasol i lety myfyrwyr, fflatiau a chartrefi gofal.

Daw’r cyhoeddiad gan Julie James, y Gweinidog Tai, fel ymateb yng Nghymru i drasiedi Tŵr Grenfell yn Llundain.

Ac mae’n ymateb i ganlyniadau ymchwiliad gan y Fonesig Judith Hackitt i reoliadau adeiladau a gafodd ei gyhoeddi fis Mai y llynedd.

Roedd hi’n argymell newidiadau sylweddol i adeiladau uchel o fwy na deg llawr.

“Roedd tân Tŵr Grenfell yn drasiedi a fydd yn aros yng nghof nifer ohonom ni am amser hir,” meddai Julie James.

“Dylai’n cartrefi ni fod yn fwy diogel nag unman arall. Mae’r camau rwy’ wedi eu cymryd heddiw yn mynd i helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain, ac yn ei gwneud yn gwbl glir beth sy’n addas i’w ddefnyddio ar waliau allanol adeiladau perthnasol 18m neu’n uwch.  

“Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad balch o sicrhau safonau uchel o ran diogelwch rhag tân. Mae nifer y tanau mewn cartrefi yn is nag erioed, ac yn 2016 ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i’w gwneud yn orfodol i bob cartref newydd neu wedi’i addasu gael systemau chwistrellu. 

“Ond mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau mwy o eglurder gydol oes yr adeilad am swyddogaethau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n dylunio, adeiladu a rheoli adeiladau. Rwy’n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn yn 2020 yn amlinellu manylion fy nghynlluniau.”

‘Annigonol’

Ond yn ôl Undeb y Frigâd Dân (FBU), dydy’r gwaharddiad ddim yn mynd yn ddigon pell.

“Nid dyma’r gwaharddiad llwyr ar gladin ffrwydrol y bu diffoddwyr tân yn galw amdano,” meddai Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.

“Dylai’r mesurau fod yn berthnasol i bob adeilad, nid dim ond y rhai dros 18 metr, ac fe ddylai gynnwys gwaharddiad ar ddeunyddiau A2.

“Mae’r FBU wedi galw am waharddiad llwyr ar y deunyddiau fflamadwy hyn.”

Mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain wedi gosod esiampl wael i lywodraethau eraill Prydain.

“Mae trigolion adeiladau preswyl uchel a diffoddwyr tân eisiau camau mwy cynhwysfawr yn erbyn cladin fflamadwy fel nad yw tân fel Grenfell fyth yn digwydd eto.”