Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn galw am weithredu pellach i helpu pobol sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru ac sy’n dioddef o salwch iechyd meddwl ac yn camddefnyddio sylweddau.
Mae Grŵp Digartrefedd y Cynulliad yn dweud bod Cymru’n wynebu “argyfwng”, gyda chynnydd o 45% yn nifer y bobol ddigartref sy’n cysgu ar y stryd rhwng 2015 a 2018.
Mae’r pwyllgor wedi clywed gan bobol sydd wedi cysgu ar y stryd ac sy’n gweithio â phobol ddigartref.
Un o’r rhwystrau i geisio cymorth, yn ôl arbenigwyr, yw fod diffyg ymwybyddiaeth ac arweiniad o fewn mudiadau sy’n gallu cynnig y cymorth hwnnw, a neb yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa.
Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd wrth gydweithio â sefydliadau megis gwasanaethau iechyd meddwl, arbenigwyr ym maes camddefnyddio sylweddau a chymdeithasau tai er mwyn creu gwasanaeth integredig.
Mae hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu arfer dda ar gyfer rhoi cymorth.
‘Dim digon o arian i sortio’r broblem’
Wrth ymateb, dywed John Griffiths, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y Cynulliad nad oes yna ddigon o arian i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Nid oes unrhyw gwestiwn ein bod yn wynebu argyfwng o ran cysgu ar y stryd ac ar hyn o bryd nid oes digon o arian yn y system i sicrhau’r newid sylweddol sydd ei angen i fynd i’r afael â’r broblem,” meddai.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg hefyd bod llawer o broblemau strwythurol ledled Cymru sy’n ein rhwystro rhag dileu cysgu ar y stryd.
“Ni ellir atal digartrefedd drwy dai yn unig, mae rôl i’r holl wasanaethau cyhoeddus o ran mynd i’r afael â’r broblem.
“Mae sefydliadau yn aml yn gweithio mewn seilos a phan fydd gennych rywun heb gartref, â phroblem iechyd meddwl, sy’n camddefnyddio sylweddau, mae angen cynnwys nifer o wahanol asiantaethau.
“Mae’n amlwg o’n hymchwiliad bod yn rhaid i’r sefydliadau hyn weithio’n well gyda’i gilydd ac mae angen i rywun arwain – dylai Llywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth a dod â phobol ynghyd.
“Mae’n amlwg i mi bod gwaith gwych yn digwydd, fel y prosiectau Tai yn Gyntaf a’r Community Care Collaborative yn Wrecsam. Mae’r bobl hyn yn arwain y ffordd – ond mae’n rhaid ailadrodd hyn ledled Cymru ar frys.
“Fe wnaethon siarad â phobl mewn amgylchiadau anodd iawn. Clywsom fod llawer o bobl sy’n cysgu ar y stryd yn wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i gyflyrau fel awtistiaeth neu ADHD. Os ydynt hefyd yn ymdopi â phroblemau iechyd meddwl a dibyniaeth, mae ganddynt fynydd i’w ddringo i gael y cymorth cywir.
“Gwyddom y bydd llawer o bobl yn treulio’r Nadolig ar eu pennau eu hunain eleni oherwydd amryw o resymau. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol, heddiw rydym yn galw arni i ddangos arweinyddiaeth a gweithredu ar frys i fynd i’r afael â chysgu ar y stryd a’r rhesymau cymhleth drosto. ”