Mae myfyrwyr yn Aberystwyth wedi croesawu’r sicrwydd y bydd Neuadd Pantycelyn yn ail-agor ym mis Medi – ond ymateb cymysg sydd wedi bod i’r newyddion mai dyma fydd y llety druta’ ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r neuadd Gymraeg ddruta’ yng Nghymru.

Bum mlynedd union ers cau’r neuadd ar gyfer ailwampio ac ers i fyfyrwyr atal y bygythiad  i’w chau yn llwyr, mae’r Brifysgol yn hysbysebu am fyfyrwyr, ond ar bris o £5,512 y flwyddyn.

Er bod y Brifysgol yn dweud bod hyn yn “werth rhagorol am arian” mae rhai myfyrwyr yn pryderu y gall y pris gadw myfyrwyr draw gan gael effaith ar ddiwylliant Cymraeg Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

‘Cnoc i ddiwylliant’

“Byddai talu £167.02 yr wythnos wedi bod yn anodd iawn os nad amhosib i mi ei dalu” meddai Gwenno Nefydd sydd ar ei thrydedd flwyddyn a heb gael cyfle i fyw yn y neuadd.

“Mae perygl bydd cael pris mor ddrud yn golygu bydd llai o fyfyrwyr yn dewis byw yno sydd yn ei dro yn gnoc arall i ddiwylliant Cymraeg yma yn Aber.”

Ond mae Llywydd undeb y myfyrwyr Cymraeg, UMCA, wedi croesawu’r newyddion am ailagor y neuadd ac yn dweud bod y llety o’r “safon ucha’” ac yn “cymharu’n deg iawn” â gweddill llety’r Brifysgol.

Pris Pantycelyn

Dyma sut y mae prisiau ym Mhantycelyn yn cymharu gyda neuaddau Cymraeg eraill – yn wahanol i’r lleill, mae pris Pantycelyn yn cynnwys bwyd, ond dim ond am 33 wythnos y mae hawl i fyfyrwyr aros yno o gymharu â 40 wythnos yn y lleill. 

  • Pantycelyn, Prifysgol Aberystwyth – £5,512 
  • John Morris-Jones (JMJ), Prifysgol Bangor – £4,818.33 
  • Llys Senghennydd, Prifysgol Caerdydd – £4,409.002  

Fe fydd y gost bob wythnos yn £167.20 ym Mhantycelyn; mae prisiau canolfannau llety eraill Prifysgol Aberystwyth yn amrywio o £146.58 I £85.40 … ond fod yr adnoddau’n wahanol a llawer yn hunan-ddarpar.

Y cefndir

Fe fu protestio mawr gan UMCA a Chymdeithas yr Iaith pan gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth fwriad i gau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr Cymraeg i lety newydd Fferm Penglais.

Roedden nhw eisiau cadw Pantycelyn yn ganolfan lle’r oedd modd i fyfyrwyr aros a chymdeithasu a chynnal gweithgareddau.

Ar ôl buddsoddiad o £16.5m i adnewyddu Neuadd Pantycelyn mae “Neuadd breswyl enwocaf Cymru” – a’r neuadd Gymraeg gyflaw gynta’ wedi cael neuadd ffreutur newydd sbon a lle i 200 o fyfyrwyr mewn ystafelloedd en-suite.

Ymateb UMCA

Fe fydd y neuadd hefyd yn gartref i UMCA ac, yn ôl llywydd yr undeb, Tomos Ifan, un o’i brif flaenoriaethau eleni yw gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu cymuned Gymraeg “weithredol a bywiog” yn barod ar gyfer ail-agor Pantycelyn yn 2020. 

“Mae pris llety ym Mhantycelyn ar gyfer 2020/2021 sydd yn cynnwys bwyd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn cymharu’n deg iawn gyda gweddill lletai’r Brifysgol,” meddai.

Maen nhw hefyd wedi croesawu gostyngiad o 10% i ychydig grwpiau o fyfyrwyr – er mwyn nodi’r ail-agor.

Dim lle yn y llety 

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Llety Prifysgol Aberystwyth na fydd modd i fyfyrwyr aros yno am 40 wythnos – sy’n cynnwys gwyliau’r Nadolig a’r Pasg – heb dalu cost ychwanegol, dewis a gafodd ei wneud, madden nhw, er mwyn “cadw’r prisiau i lawr”.

Fe fydd myfyrwyr yn cael cadw eu heiddo yno,

Ymateb y Brifysgol

Datganiad gan y Brifysgol yn ymateb i’r stori:

Mae pris Pantycelyn yn adlewyrchu neuadd newdd sbon wedi ei harlwyo sydd yn cynnig llety en-suite.

Mae’r trefniant i ddarparu neuadd wedi ei harlwyo yn ymateb i’r hyn mae’r ymgychwyr wedi bod yn gofyn amdano ar hyd y daith.

Pris Pantycelyn yw £5512 am 2020/21 – £167.20 yr wythnos. £117.20 yr wythnos am lety, a £50 yr wythnos am fwyd. Noder bod angen prynu’r pecyn bwyd gan taw neuadd wedi ei harwlyo yw hon.

Mae’r cytundeb 33 wythnos yn golygu na fydd myfyrwyr yn talu am gyfnod y Nadolig a’r Pasg (6 wythnos) ond mi fyddant yn gallu cadw eu heiddo yno.

Parthed neuaddau Senghennydd a John Morris Jones.

Pan fydd yn agor ym mis Medi 2020 wedi buddsoddiad o £16.5m mi fydd Pantycelyn yn cynnig llety, adnoddau cymdeithasol ac astudio di-gymar i 200 o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg a dysgwyr. Hon hefyd fydd cartref Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), y Geltaidd, Aelwyd Pantycelyn a holl fwrlwm cymdeithas myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.