Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Archesgob Cymru, y Gwir Barchedig John D E Davies.

Fe dderbyniodd ei radd yn ystod seremoni raddio Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Cafodd ei eni yng Nghasnewydd ac fe fu’n gyfreithiwr troseddol cyn mynd i’r eglwys.

Aeth i hyfforddi yn Llandaf ar gyfer y weinidogaeth ac fe enillodd e Ddiploma mewn Diwynyddiaeth gan Brifysgol Cymru.

Astudiodd e’r gyfraith grefyddol a chwblhau Gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1995. 

Cafodd ei dderbyn i’r eglwys yn 1984, a’i benodi’n Ddeon Aberhonddu yn 2000.

Cafodd ei ethol yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008 ac yn Archesgob Cymru yn 2017, gan ddweud ei fod e am weddnewid delwedd yr eglwys.

Mae’n frwd dros gyfiawnder cymdeithasol, gan gynnwys digartrefedd, problemau cefn gwlad, rhoi organau, cymorth i farw a thlodi.

Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn y system gyfiawnder a gofal iechyd.

‘Arwyddocâd personol a nostalgaidd’

“Rwy’n ostyngedig ac yn freintiedig fod y Brifysgol wedi dewis fy anrhydeddu yn y ffordd yma,” meddai Archesgob Cymru.

“I fi, mae gan y wobr hon arwyddocâd personol a nostalgaidd gan fod fy nhad, a fu farw fis Mehefin eleni, wedi graddio yn 1947 o’r hyn oedd yn Goleg Prifysgol Abertawe bryd hynny.

“Roedd e’n eithriadol o falch o’r ffordd y tyfodd y brifysgol o ran maint ac enw da dros y blynyddoedd, ac fe fyddai wedi bod wrth ei fodd gyda’r wobr rwy mor falch i’w derbyn.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld enw da’r brifysgol yn tyfu ac yn croesawu’r cyfraniad mae’n ei wneud i’r gymuned leol ac i economi Abertawe.”