Fe wariodd y Blaid Geidwadol fwy o arian ar hysbysebion Facebook ac Instagram yn ystod yr etholiad cyffredinol.

Daeth rhan helaeth o’r gwario yn y pythefnos yn dilyn i fyny at yr etholiad.

Gwariodd y blaid £959,329 ar hysbysebion yn y mis cyn yr etholiad.

O’i gymharu, gwariodd y Blaid Lafur £552,035, gan eu rhoi nhw’n bedwerydd o ran gwariant.

Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn ail gan iddynt wario £800,767.

Tra’r oedd y Blaid Brexit yn drydydd ac wedi gwario £585,202.