lMae dyn 28 oed wedi’i gyhuddo o nifer o droseddau ar ôl taro plismon â’i gar yng Nghaerfyrddin.

Roedd yr heddlu’n ceisio stopio Thomas Stephen Williams o ardal Bancyfelin pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Roedd yr heddlu’n ymateb i wrthdrawiad ar Heol y Priordy ddydd Gwener diwethaf (Rhagfyr13).

Mae lle i gredu bod y gyrrwr wedi rhedeg i ffwrdd o’r gwrthdrawiad cyn dychwelyd i’w gar a tharo’r plismon wrth geisio gyrru i ffwrdd.

Chafodd y plismon mo’i anafu’n ddifrifol, ac fe lwyddodd yr heddlu i stopio’r car yn ddiweddarach.

Cafodd y gyrrwr i gludo i’r ysbyty a’i arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Mae e bellach wedi’i gyhuddo o ymosod ar blismon, gyrru’n beryglus, gyrru’n groes i amodau ei drwydded, gyrru heb yswiriant a dwyn cerbyd gan ddefnyddio trais.