lMae oleuaf pedwar o bobol wedi marw ar ôl i gorwyntoedd a stormydd adael lanast ar hyd de-ddwyrain yr Unol Daleithiau.

Eisoes mae yna ddwsin o bobol wedi’u hanafu, gyda thai a llinellau pŵer yn cael eu dymchwel.

Ac erbyn hyn mae yno rybudd llifogydd wedi’u rhyddhau wrth i law trwm daro Greenup County yn Kentucky dros nos.

Cafodd criw achub dŵr eu galw i helpu dau berson ddydd Mawrth (Rhagfyr 17).

Bu farw un ohonynt ac mae criwiau’r heddlu yn dal i geisio achub y person arall.

Dyw hi ddim yn glir sawl corwynt sydd wedi pasio drwy’r ardal ond mae Gwasanaeth Tywydd yr Unol Daliaethau wedi rhoi 240 rhybudd corwynt er dydd Llun (Rhagfyr 16).