Mae Emily Thornberry yn dweud ei bod hi’n awyddus i arwain y Blaid Lafur pan fydd Jeremy Corbyn yn camu o’r neilltu.

Fe ddywedodd yn ddiweddar na fyddai’n brwydro etholiad arall ar ôl colli’n drwm i Boris Johnson a’r Ceidwadwyr.

Mae disgwyl y gallai’r arweinydd gamu o’r neilltu yn y flwyddyn newydd, gyda’r ras i chwilio am olynydd yn dechrau’n fuan wedyn.

Mae Emily Thornberry yn dweud ei bod hi’n “anghytuno â thipyn” o gyfeiriad Llafur Newydd ganol y 1990au, ond fod “gan y tîm hwnnw dipyn o fewnwelediad gwleidyddol ac eglurder o ran eu pwrpas”.

Mae’n dweud na fyddai “fyth wedi pleidleisio o blaid rhoi’r Brexit i [Boris] Johnson yr oedd yn ei grefu”.

Mae’n dweud fod Boris Johnson, pan oedd e’n Ysgrifennydd Tramor a hithau’n llefarydd materion tramor Llafur, yn canolbwyntio ar bum pwynt sylfaenol – ffiniau Iwerddon, rhyfel Yemen, Donald Trump, hawliau dynol a newid hinsawdd.

Ond mae’n dweud bod y cyfnod hwnnw’n dangos bod Boris Johnson yn “ddiog a pheryglus ac yn methu cuddio” y tu ôl i ddiffyg sylweddol.

Mae’n dweud mai’r cwestiwn allweddol i unrhyw ymgeisydd i arwain Llafur yw sut y bydd yn herio arweinyddiaeth Boris Johnson.