Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddynes oedrannus fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym maes parcio cartref gofal ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Bu farw Daphne Joan Williams, oedd yn 85 oed, ar ôl cael ei hanafu yn y maes parcio yn Morgana Court yn Ne Corneli brynhawn dydd Llun (Rhagfyr 16).

Roedd hi’n fam, yn wraig, yn fam-gu ac yn hen fam-gu, a dywed ei theulu fod ganddi’r “galon fwyaf meddal ac y byddai’n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un”.

Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn apelio am wybodaeth am gar Renault Captur lliw arian.