Mae dyn 24 oed wedi bod gerbron llys i wynebu cyhuddiad o lofruddio dyn 23 oed yn y Barri.
Mae Jordan Brown wedi’i gyhuddo o lofruddio Jordan Davies yng nghanol y dref ddydd Llun (Rhagfyr 16).
Yn Llys Ynadon Caerdydd, fe gadarnhaodd ei enw, ei gyfeiriad a dweud mai Sais yw e.
Fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa.
Roedd y ffordd ynghau am nifer o oriau wrth i’r heddlu arfog ymateb i’r digwyddiad.
Yn ôl yr heddlu, roedd yr ymosodiad yn un “brawychus” i’r rhai oedd wedi ei weld wrth siopa am oddeutu 4 o’r gloch y prynhawn.
Mae lle i gredu bod y ddau yn adnabod ei gilydd.