Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r diddanwr Kenny Lynch, sydd wedi marw’n 81 oed.

Mae’n fwyaf adnabyddus am ei ganeuon ‘Up On The Roof’ a ‘You Can Never Stop Loving Me’ yn y 1960au, ac am ei ran yn y ffilm ‘Carry On Loving’ yn 1970.

Roedd e wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu gan gynnwys ‘Celebrity Squares’, ‘Mooncat & Co’, ‘Room at the Bottom’, ‘Bullseye’, ‘Z Cars’, ‘The Sweeney’, ‘Till Death Us Do Part’ a ‘Treasure Hunt’.

Mae hefyd yn adnabyddus fel cyfansoddwr.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei deulu y byddan nhw’n ei “garu bob amser” ac y bydd “yn cael ei gofio ac y bydd colled fawr ar ei ôl”.

Dywedodd y cyflwynydd Danny Baker fod ganddo fe “gryn ddoniau” a’i fod yn “arloeswr ac yn gwmni rhagorol”.

Dywedodd hefyd fod ganddo fe “filiwn o straeon” ond ei fod e’n “westai gofalus ar yr awyr”.

Dywedodd Gary Lineker ei fod e’n “ddyn hyfryd, doniol a thalentog” a’r “cwmni gorau… pan nad oedd e’n hwyr”.

Dywedodd Boy George ei fod e’n “rhan enfawr o’m bywyd yn y 1970au”.