Jane Eyre yn dod wyneb yn wyneb â Mr Brocklehurst:
“No sight so sad as that of a naughty child,’ he began, ‘especially a naughty little girl. Do you know where the wicked go after death?’ ‘They go to hell,’ was my ready and orthodox answer. ‘And what is hell? Can you tell me that?’ ‘A pit full of fire.’ ‘And should you like to fall into that pit, and to be burning there for ever?’ ‘No, sir.’ ‘What must you do to avoid it?’ I deliberated a moment: my answer, when it come was: ‘I must keep in good health, and not die.”
(Jane Eyre gan Charlotte Brontë, 1816-1855; gwreiddiol 1847 – Penguin English Library, 2012)
I raddau, cwestiwn Mr Brocklehurst yw testun y golofn hon heddiw. ‘Do you know where the wicked go after death?’
Ychydig iawn, iawn o bregethu a thrafod sydd am uffern, er bod Iesu’n cyfeirio ato sawl gwaith, gan ddefnyddio delweddau megis wylo, rhincian dannedd a ffwrnais danllyd. Bu’r syniad o uffern yn ddeniadol erioed; pobol dda yn mynd at Dduw i’r Nefoedd, a phobol ddrwg yn mynd i uffern at y diafol! Gwobr dragwyddol ei pharhad i’r da, a chosb dragwyddol i’r drwg.
Caiff y meddwl cyfoes am uffern ei rannu i bedwar dosbarth.
Dosbarth 1: Y traddodiadol, gan bwyso ar y delweddau Beiblaidd o dân a brwmstan – artaith a phoen – sydd yn para hyd yn oes oesoedd. Ychydig iawn o Gristnogion – yn gyhoeddus, o leiaf – fuasai’n barod i wthio eu deall hwythau o uffern i’w bendraw rhesymegol, a dweud bod pawb nad ydyn nhw’n credu fel hwythau yn mynd i’r tân.
Dosbarth 2: Addasiad o’r traddodiadol. Caiff hollt ei greu rhwng yr artaith a phoen, a’r awgrym fod yr artaith a’r boen yn para am byth. O’r herwydd, daw uffern yn ystafell aros o fath, yn gyflwr dros dro: Y Purdan.
Dosbarth 3: Arswydir rhag defnyddio’r delweddau traddodiadol. Mae sôn am bobol dda yn mynd i’r Nefoedd, ac ym mhresenoldeb Duw, a ffynnu gan fyw yn oes oesoedd. Caiff y bobol ddrwg eu hamddifadu o bresenoldeb Duw; maen nhw’n darfod, yn diflannu ac yn peidio â bod.
Dosbarth 4: Caiff yr holl beth ei anwybyddu, a does yna’r un bregeth na thrafod am uffern. Caiff pobol dda, gall a chydwybodol eu cred eu gadael heb arweiniad na chymorth wrth geisio mynd i’r afael â phwnc sy’n allweddol bwysig.
Mae uffern yn drafferth am ddau reswm. Yn gyntaf, yn foesol. Pa fath Dduw yw hwn sy’n taflu’r bobol mae’n eu caru, eu cofio, eu cadw a’u codi i lyn o dân a brwmstan am dragwyddoldeb? Beth bynnag fo natur y drwg a wnaeth person, a oes cyfiawnhad dros ei gosbi am byth? A fyddai’n bosib i bobol dda yn y Nefoedd fwynhau tragwyddoldeb o fendith, gan wybod, yn rhywle gerllaw, fod yna bobol yn dioddef tragwyddoldeb o felltith? Rhaid bod yn ofalus wrth ddadlau fel hyn. Hawdd iawn gosod yr holl syniad o uffern o’r neilltu, gan symud ymlaen gyda’n ffydd yn fwy gwâr a chall o’r herwydd. Camgymeriad dybryd! Pam? Mae yna gysylltiad annatod rhwng Nefoedd ac uffern. Nid oes un heb y llall. Yr ail reswm pam fod uffern yn drafferth yw y credwn, a chyhoeddwn fod Duw yng Nghrist wedi ennill buddugoliaeth dros bob drwg (Rhufeiniaid 8:35-37). Awgryma bodolaeth uffern nad buddugoliaeth lwyr mo buddugoliaeth Duw.
Tylla’r ddau reswm yn ddwfn i’r argyhoeddiad mai cariad yw Duw. A all Duw Tadol oddef gweld ei blant yn dioddef am byth? Os Duw hollalluog ydyw, sut all rhai o’i blant grwydro mor bell o’i afael fel eu bod yn haeddu tân a brwmstan? Rhyddid ewyllys? Os cawsom gan Dduw ryddid ewyllys i wrthod Duw, rhaid derbyn y canlyniadau wedyn. Rhaid peidio meddwl mai rhyddid ewyllys yw echel ffydd. Echel ffydd yw cariad hollalluog Duw, ac mae uffern y tân a brwmstan yn awgrymu nad Duw cariad hollalluog mohono!
A oes ateb? Defnyddia’r proffwyd Malachi ddelwedd i sôn am Dduw sy’n cynnig ffordd i ni dderbyn realiti a diben uffern.
Mae Duw fel tân coethydd … fel un yn coethi a phuro arian, ac fe bura feibion Lefi a’u coethi fel aur ac arian, er mwyn iddynt fod yn addas i ddwyn offrymau i’r ARGLWYDD (Malachi 3:2).
Nid pobol dda a phobol ddrwg sydd; ond pobol sy’n dda a drwg. Mae pob un ohonom yn gymysgedd o ddaioni a drygioni. Nid oes yr un enaid byw sydd yn ddrwg i gyd, nac yn dda i gyd. Dychmygwn dân Duw yn llosgi; bydd yn llosgi hyd y dydd pan ddaw Teyrnas Dduw. Y diwrnod hwnnw, caiff y tân ei ddiffodd am byth. O’r dechrau a hyd nes y daw’r dydd hwnnw, bydd pawb ohonom yn mynd i dân Duw’r coethydd i’n coethi – y drwg sydd ynom yn cael ei losgi i ffwrdd, gan adael dim ond y daioni pur i’n creu o’r newydd, i fyw am byth gyda Duw. Nid yr hyn ydym nawr sydd yn cyrraedd y Nefoedd, ond y gorau ohonom, a’r o’r gorau hwnnw y cawn ni ein creu o’r newydd. Bydd rhai pobol yn treulio bron dim amser yn nhân y coethydd; ond bydd eraill yno hyd nes i’r tân ddifa’r holl ddrwg a’i wneud yn addas i gyfrannu i addoliad, cyfeillgarwch a gwledda’r Nefoedd. Nid erchylltra tragwyddol mo uffern; tân coethydd yw, a wahana’r hyn sydd orau amdanom o’r hyn sydd waethaf. Mae a wnelo hyn â heddiw. Y lleiaf y caniatawn i wres Cariad Duw ein gweddnewid nawr, y mwyaf i gyd o waith fydd i dân y coethydd.
Nid yw’r darlun hwn o uffern yn anwybyddu’r delweddau traddodiadol Beiblaidd na’r argyhoeddiad mai Duw cariad hollalluog yw Duw. Nid yw’n ddarlun hawdd, nid yw chwaith yn peri braw a dychryn; yn hytrach, mae’n deffro mawl ac addoliad wrth ddangos mai Duw bythol cariadlawn a chyson greadigol yw ein Duw ni.