Mae cael teithio’r wlad fel digrifwr yn swnio fel bywyd braf, ond mae Ignacio Lopez yn dweud bod ei sioe newydd yn datgelu’r gwirionedd go iawn.

Cafodd y digrifwr, sy’n hanner Sbaenwr a hanner Cymro, ei eni ym Mallorca a’i fagu ym Mhontardawe.

Yn enw a wyneb cyfarwydd ar y gylchdaith gomedi yng Nghymru ers dros ddegawd, mae e wedi dod i amlygrwydd ar deledu drwy’r Deyrnas Unedig dros y misoedd diwethaf, gan ymddangos mewn sioeau mawr fel Have I Got News For You (ddwywaith), Live At The Apollo, The Great British Bake Off: An Extra Slice, a The Apprentice: You’re Fired, ac fe fu’n ffilmio’n ddiweddar ar gyfer sioe ar-lein gyda Comedy Central.

I ffwrdd o’r camerâu teledu y penwythnos hwn, bu’n gwneud dwy gig yn Glasgow, lle bu’n siarad â golwg360, cyn troi ei sylw at Ŵyl Gomedi Machynlleth.

Bydd e’n perfformio’i sioe ‘gwaith mewn llaw’ [Work in Progress] newydd, Señor Self Destruct, yn yr ŵyl gomedi yno, gan ddangos bod bywyd digrifwr ymhell o fod yn fêl i gyd.

“Bob tro dw i’n gwneud sioe unigol, dw i’n trio ysgrifennu rhywbeth hollol newydd a gwahanol,” meddai.

“Dw i wedi gwneud sioeau am hanes Sbaen, ac roedd fy sioe ddiwethaf [Nine Ig Fails] yn un naratif hir am gasglu arian ynghyd i fynd i wylio [y band] Nine Inch Nails yn 2009.

“Y tro yma, dw i wedi penderfynu mynd yn ôl i ddechrau o’r dechrau, a jyst ysgrifennu awr o jôcs a deunydd bachog ar un thema, felly yn hytrach na chael straeon hir, mae’n fyrrach ac yn fwy bachog.”

Troi’r negyddol yn bositif

“Mae’r sioe hon yn ymdrin ag agweddau negyddol yn fy mywyd,” meddai wedyn, wrth egluro hanfod ei sioe awr newydd.

“Dw i’n trafod caethiwed, arferion drwg, iechyd, iechyd meddwl, a cheisio gwella fy hun.

“Mae diwylliant y gampfa’n beth mawr, ond dw i ddim yn rhywun sy’n gwneud ymarfer corff, felly dw i’n siarad am fy ymateb i hynny hefyd.

“Felly, yn y bôn, mae’r sioe yn ceisio dinistrio’r holl bethau drwg yn fy mywyd, ac yn ymgais i wneud fy hun yn well berson.”

Ydy ysgrifennu a pherfformio sioe gomedi’n broses gathartig, felly?

“Mae’n gallu bod, ond dw i’n siarad am bethau mewn ffordd negyddol hefyd – sut dw i bron yn mynd yn obsesiynol am bethau.

“Rhan o’r rheswm dw i wedi mynd yn berson sydd ddim yn iach yw’r holl nosweithiau hwyr a’r holl deithio o amgylch y Deyrnas Unedig.

“Dyw e ddim yn gwneud lles i’r corff, ond dw i wrth fy modd a wna i fyth stopio gwneud comedi stand-yp.

“Mae unrhyw un sydd wedi bod yn fy nilyn ers amser yn gwybod fod y pethau hudolus yn diflannu’n eithaf cyflym!”

‘Dylai fod gen i gyfrannau mewn Megabus’

I ddigrifwyr o Gymru yn enwedig, lle mae’r sîn yn gymharol fach ac yn anghysbell o gymharu â rhai o ddinasoedd mawr Lloegr, mae cyrraedd y llwyfan mawr a chael cynnig y gigs mwyaf fel arfer yn golygu cryn dipyn o deithio.

“Mae’r sioeau a’r ymddangosiadau ar y teledu’n wych, ond dw i’n credu ’mod i wedi teithio ar y Megabus fwy na neb arall ar wyneb y ddaear!” meddai’r digrifwr wrth siarad ar ôl taith hunllefus o Gaerdydd i Glasgow i berfformio yn y Glee Club.

“Dylai fod gen i gyfrannau yn y cwmni, achos dw i’n credu ’mod i’n eu cadw nhw rhag mynd yn fethdal weithiau!”

Oes, mae’n rhaid meddu ar synnwyr digrifwch i fod yn ddigrifwr weithiau – yn enwedig pan nad yw’r daith yn mynd yn ôl y cynllun.

“Mae’r teithio’n lladdfa,” meddai.

“Y penwythnos yma, roedd un trên o Gaerdydd i Fryste awr yn hwyr, roedd y bws o Fryste i Faes Awyr Bryste yn hwyr a wnes i golli’r awyren.

“Mae llawer o amser yn mynd ar deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu’n eistedd mewn gwahanol lefydd yn aros am drafnidiaeth gyhoeddus.”

Ond ydy hi’n werth yr holl deithio yn y pen draw? Ydy, medd Ignacio Lopez.

“Mae yna beth enwog ymhlith perfformio rydyn ni’n ei alw’n ‘Doctor Stage’; os ydych chi byth yn teimlo eich bod chi’n colli’ch llais neu eich bod chi’n teimlo’n isel neu’n sâl, unwaith rydych chi’n mynd ar y llwyfan mae’r adrenalin yn eich taro chi ac mae’n eich gwella chi am y cyfnod hwnnw.

“Wedyn, rydych chi’n dod oddi ar y llwyfan ac yn crasio eto!”

Teithio’r wlad

Yn ystod ein sgwrs, mae Ignacio Lopez yn datgelu y bydd e’n un o griw’r gyfres nesaf o Iaith Ar Daith.

Tra nad yw’n cael dweud llawer am hynny eto, dywed ei fod yn awyddus i ddysgu Cymraeg, a’i fod e wrth ei fodd yn teithio ar hyd a lled Cymru yn gwneud gigs comedi.

“Dw i  wrth fy modd, yn enwedig mewn llefydd fel Casnewydd lle mae gen i dipyn o hanes, ac wedyn llefydd fel Caerdydd a Chastell-nedd hefyd.

“Maen nhw’n llefydd anhygoel i berfformio, oherwydd dw i’n teimlo fy mod i wedi dod adref.

“Yr hyn oedd yn hwyl i fi ar y daith ddiwethaf oedd mynd i lefydd dw i ddim yn mynd iddyn nhw’n aml, fel Newcastle a Leeds.

“Roedd y gigs hynny’n teimlo’n arbennig, ac roedd y gefnogaeth yno’n hollol wych.

“Mae’n braf ailymweld â llefydd fel Frog And Bucket ym Manceinion, lle roeddwn i bob amser wedi bod eisiau gigio.

“Mae’n glwb comedi chwedlonol, ac roedd cael mynd yno o’r diwedd, cael hyd i ddilyniant a gwerthu allan yn rhoi synnwyr i fi fy mod i wedi llwyddo.

“Mae gen i lawer o gariad at y llefydd fues i iddyn nhw ar y daith.”

O stand-yp i ddychan

Mae’r sgwrs hon, fel gyrfa Ignacio Lopez, wedi mynd â ni i gyfeiriadau gwahanol cyn dychwelyd at ei waith teledu.

Wedi’r cyfan, mae’r ymddangosiadau lu ar y sgrîn wedi helpu i sicrhau bod yr holl docynnau ar gyfer ei sioe yn yr Ŵyl Gomedi ym Machynlleth wedi’u gwerthu ymhell cyn y penwythnos.

Ond tybed pa mor wahanol yw stand-yp i ddychan, sef prif genre rhaglenni fel Have I Got News For You?

“Mae’n wahanol iawn,” meddai Ignacio Lopez.

“Dw i’n trio peidio ysgrifennu gormod o ddeunydd cyfoes oherwydd dyw e ddim yn para.

“Os dw i’n mynd ar daith ac wedi bod yn gwneud sioe materion cyfoes, erbyn diwedd y daith fydd dim byd yn berthnasol rhagor, yn enwedig o gofio cyflwr newidiol gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig!

“Mae gwleidyddion yn ymddeol yr wythnos hon, a dw i yn Glasgow ac mae arweinydd yr SNP [Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban] newydd ymddiswyddo.

“Bob wythnos, dw i’n teimlo’n flin dros ddigrifwyr gwleidyddol oherwydd maen nhw’n addasu eu deunydd o hyd.

“Wrth fynd ar Have I Got News For You, roeddwn i wedi cael digon o ymarfer oherwydd dw i wedi gwneud llawer o sioeau radio materion cyfoes.

“Dw i wedi gwneud The Leak ar BBC Radio Wales, dw i wedi perfformio ar The Now Show [BBC Radio 4] yn gwneud ambell gân gomedi iddyn nhw.

“Dw i wedi gwneud sioe o’r enw Breaking the News yn yr Alban, ac roedd yn gyfle da i ymarfer ar gyfer Have I Got News For You oherwydd rydych chi’n ysgrifennu wrth fynd yn eich blaen ac mae’n hollol ar fympwy.

“Dyw hi ddim yn sioe sgript, a does dim ots faint rydych chi’n paratoi, mae pethau’n mynd i newid ar ddiwrnod y sioe ac maen nhw’n mynd i newid pynciau i chi ar y funud olaf oherwydd bod newyddion yn torri o hyd.

“Mae’r cyfan wedi bod yn baratoad da ar gyfer Have I Got News For You, oherwydd es i i’r bennod gyntaf wedi paratoi tudalennau o jôcs – ac o fewn 30 munud cyn recordio, doedd dim byd yn berthnasol bellach!

“Mae angen i chi baratoi, ond weithiau’n mae e’n ofer!”

Mentergarwch

Ymhlith ei ymddangosiadau diweddaraf ar deledu mae The Great British Bake Off: An Extra Slice a The Apprentice: You’re Fired.

Ond ydy Ignacio Lopez yn pobi, neu a oes ganddo fe ben busnes?

“Dw i wrth fy modd yn coginio, ond dw i ddim yn pobi llawer,” meddai.

“Dw i ddim yn amyneddgar iawn, a dw i ddim yn hoffi aros am bethau.

“Mae pobi’n brofiad araf, hamddenol i lawer o bobol, ond dw i’n hoffi ffrio popeth mewn padell a chreu rhywbeth cyflym.

“Ond ers gwneud y sioe, dw i wedi cael fy ysbrydoli i bobi rywfaint, a dw i wedi gwneud magdalenas, sef cacennau bach Sbaenaidd clasurol.”

Ac fe wnaeth e bobi magdalenas i fynd ar Bake Off hefyd…

“Roedd y lein-yp yn wych, ac fe ges i gyfle i weithio gyda Jo Brand, sy’n ffigwr comedi chwedlonol, felly roeddwn i wedi cyffroi’n fawr.

“Doeddwn i ddim wedi pobi ryw lawer o’r blaen, felly wnes i chwilio am rysait a rhoi cynnig arni.

“Roedd y cacennau cyntaf wedi’u llosgi’n ulw a doedd dim modd eu bwyta nhw – doeddwn i ddim eisiau codi ofn ar neb!

“Roeddwn i ar fy nhraed tan 2 o’r gloch y bore cyn recordio yn pobi’r cacennau yma, a daeth yr ail gynnig allan yn iawn.

“Es i yno, a dywedon nhw, ‘Grêt, rydych chi wedi pobi rhywbeth ac roedd e’n ddewisol’

“Roeddwn i wedi bod ar fy nhraed tan 2 o’r gloch y bore, gan feddwl ei fod e’n rhan o’r cytundeb!”

At ei gynllun busnes, felly – siop gacennau, efallai?

“Byddwn i wrth fy modd yn lansio clwb comedi, fyddai’n ddiddorol yn rhywle fel Mallorca, lle does ganddyn nhw ddim llawer o glybiau comedi.

“Maen nhw jyst yn darparu ar gyfer pobol Brydeinig ar wyliau yno!

“Ond dw i ddim yn meddwl y byddwn i’n mynd ar y sioe beth bynnag. Mae’n rhy ddifrifol a dwys.

“Mae pobol sy’n ymddangos yn alluog a chlyfar yn mynd â’u syniadau busnes ac yn dod drosodd fel pe baen nhw’n analluog ac yn fethiant – fel arfer oherwydd bod y sioe yn symud mor gyflym, ac weithiau mae’r tasgau jyst yn dwp.”

Comedy Central

Ydy, mae Ignacio Lopez yn llawer mwy cyfforddus ar lwyfan, ac mae un elfen o’i waith ar ôl i’w drafod cyn i’r sgwrs ddirwyn i ben.

Cafodd e wireddu breuddwyd arall yn ddiweddar wrth recordio sioe ar-lein ar gyfer Comedy Central, sianel deledu sy’n gartref i sioeau rhai o enwau mawr yr Unol Daleithiau a nifer o raglenni teledu eiconig.

“Dechreuodd South Park ar y rhwydwaith hwnnw!” meddai.

“Roedden nhw’n arfer gwneud sioe stand-yp arbennig gyda llawer o’r digrifwyr yn yr Unol Daleithiau; dw i’n credu bod gan Chris Rock sioe flynyddoedd yn ôl.

“Roeddwn i’n eu gwylio nhw wrth dyfu i fyny, felly pan ges i wybod eu bod nhw’n cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn a bod ganddyn nhw blatfform Comedy Central Live yn cynhyrchu setiau byrion gan ddigrifwyr ac yn eu rhoi nhw ar-lein, neidiais i ar y cyfle.

“Fe wnaethon ni ffilmio yn The Pleasance yn Llundain, a dyna le recordiais i sioe ar fy nhaith ddiwethaf, sy’n cael ei golygu ar hyn o bryd ac fydd yn dod allan ymhen ychydig fisoes.

“Mae’r lleoliad yn anhygoel ac ar lefel hollol wahanol, ac mae’n teimlo’n showbiz i gyd ac yn debyg i awyrgylch teledu.”

Does dim arwydd ar hyn o bryd y bydd bywyd yn tawelu i Ignacio Lopez, sydd eisoes ar daith gyda’i sioe ‘gwaith mewn llaw’.

“Mae Machynlleth yn mynd i fod yn dipyn o hwyl, a dw i wedi cyffroi bod yr holl docynnau wedi’u gwerthu, a bydda i’n gwneud mis cyfan o sioe ‘gwaith mewn llaw’ yng Nghaeredin hefyd, sy’n golygu y galla i fod yn fwy llac â hi a rhoi cynnig ar bethau newydd.

“Bydd hynny’n wych.”