Ddydd Sul diwethaf (Ebrill 28), cafodd Cymanfa Ganu’r Cyhoeddi ei chynnal yng Nghapel Bethlehem, Rhosllannerchrugog, Wrecsam.
Bu criw ffilmio yn bresennol i recordio’r cwbl at raglen Dechrau Canu Dechrau Canmol, ac roedd casgliad ar ddiwedd y noson at Gronfa Eisteddfod Wrecsam.
Arweinydd y noson oedd Brian Hughes, a’r organydd oedd Richard Gareth Jones.
Emyn-dôn a geiriau
Roedd sawl emyn dôn, gyda geiriau wedi’u gosod iddyn nhw yn y llyfryn oedd wedi’i argraffu’n arbennig at yr achlysur gan Serol Print.
Dyma’r rhai gafodd eu canu:
- Arweiniad – Richard Mills
- Arwelfa – John Hughes
- Berwyn – Caradog Roberts
- Bro Aled – Godfrey Williams
- Buddugoliaeth – G. W. Hughes
- In Memoriam – Caradog Roberts
- Maelor – John Hughes
- Marian – Caradog Roberts
- Newark – Caradog Roberts
- Pennant – T. Osbourne Roberts
- Rachie – Caradog Roberts
- Y Ddôl – Tom Carrington
Daeth y canu hefo Rachie, gaiff ei chanu i eiriau ap Hefin, ‘I bob un sy’n ffyddlon’.
Mynychu a mwynhau
Roedd corau lleol yn y noson, megis Johns’ Boys Male Chorus a Lleisiau Clywedog, yn ogystal â phobol leol ac ymwelwyr o ardaloedd mor bell i ffwrdd â Sir Fôn.
Un wnaeth fwynhau’r noson oedd Daniel Brian Hughes, yn wreiddiol o’r Rhos, sydd bellach yn byw yn Rhosddu, Wrecsam. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, mae o’n gweithio yng Ngholeg Cambria fel athro yn maes Cyfrifiaduron.
“Wedi dod yma heno i fwynhau canu’r emynau, hyfryd gweld pawb yma, ac wedi mwynhau yn fawr,” meddai.
Roedd Gron a Nesta Ellis o’r Orsedd, Sir y Fflint, hefyd wedi mwynhau.
“Noson wych… gwefreiddiol… a digon o fynd yn y canu a phawb yn mwynhau…,” medden nhw.
“A dim llusgo yn y canu, a pawb yn amlwg wedi mwynhau.”
Cafodd ei recordio ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol, fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar Fehefin 8.