Ar ôl cael rhybudd gan feddyg bod angen iddo golli pwysau i achub ei fywyd, aeth gweithiwr ffatri ati o ddifrif i geisio newid ei ffordd o fyw.

Roedd Gethin John o Borthmadog yn pwyso bron i 30 stôn ar ddechrau’r daith, sydd yn destun rhaglen ar S4C, ac roedd yn benderfynol o drawsnewid ei fywyd a cholli 10 stôn.

Bu wrthi am flwyddyn gyfan gyda chymorth un o’i ffrindiau gorau, Sion Monty, sy’n hyfforddwr ffitrwydd.