Wrth ddenu gwaith Kevin Sinnott i’w oriel, mae Ralph Sanders wedi cyrraedd ‘pincacl’ ei yrfa…

‘Mae perchennog yr oriel yn ddyn hapus iawn/ Mae e’n gwybod sut i nabod y pethe iawn…’ Dyna eiriau o gân bop danddaearol fachog o 1989, ‘Iawn’ gan Pop Negatif Wastad. A geiriau y gallech eu priodoli’n dwt i berchennog Oriel Ffin y Parc yn Llandudno, Ralph Sanders.