Cynnal streic dros ad-daliad llety myfyrwyr

Er bod y prifysgolion wedi cynnig ad-daliad mae rhai myfyrwyr yn parhau yn anfodlon a’r cynigion

Mae myfyrwyr ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor, yn bwriadu cynnal streic rhent.

Mae’r ymgyrchwyr o’r farn nad yw myfyrwyr wedi cael yr hyn dalwyd amdano gan nad oes modd iddyn nhw ddychwelyd i’r brifysgol oherwydd y coronafeirws.

Er bod y prifysgolion wedi cynnig ad-daliad mae rhai myfyrwyr yn parhau yn anfodlon a’r cynigion.

Yn sgil y cyfyngiadau teithio bydd y protestiadau yn cael eu cynnal ar lein, ac mae’r ymgyrchoedd yn annog myfyrwyr i wrthod talu rhent a chanslo eu debyd uniongyrchol.

Ad-daliadau sydd ar gael gan brifysgolion yng Nghymru

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i fyfyrwyr ddychwelyd i’r brifysgol yn raddol ar ôl y Nadolig, ond mae prifysgolion yng Nghymru wedi penderfynu oedi dysgu wyneb yn wyneb, ac eithrio cyrsiau sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Er y bydd dysgu ar lein yn parhau mae Prifysgolion Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth wedi dweud y byddan nhw’n cynnig ad-daliad am bob wythnos nad yw myfyrwyr yn defnyddio eu llety.

Yn y cyfamser mae Prifysgol Bangor yn bwriadu cynnig ad-daliad o 10% ac mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd hefyd yn bwriadu cynnig ad-daliad.

Fodd bynnag, mae Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Wrecsam eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cynnig ad-daliad.

Rhagor o brifysgolion yn cynnig ad-daliad am lety myfyrwyr.

‘Talu am lety na fyddant yn ei ddefnyddio’

Mae Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru wedi galw ar brifysgolion a landlordiaid preifat i gydweithio â Llywodraeth Cymru.

“Mae llawer o fyfyrwyr bellach yn wynebu’r posibilrwydd o dalu cannoedd o bunnoedd o rent am lety na fyddant yn ei ddefnyddio tan ganol mis Chwefror ar y cynharaf,” meddai Becky Ricketts, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, prifysgolion a landlordiaid preifat i weithio i ddigolledu’r myfyrwyr hynny sydd, drwy aros gartref, yn cadw Cymru’n ddiogel.

“Mae myfyrwyr wedi wynebu caledi ariannol ychwanegol ers mis Mawrth diwethaf oherwydd diffyg swyddi rhan-amser, felly byddai gwneud iddyn nhw dalu am wasanaethau na allant eu defnyddio yn ergyd arall iddynt.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru “mater i sefydliadau neu landlordiaid unigol yw cytundebau rhentu”.

Darllen mwy

Rhagor o brifysgolion yn cynnig ad-daliad am lety myfyrwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd wedi dweud y byddan nhw’n cynnig ad-daliad llawn am bob wythnos nad ydy myfyrwyr yn defnyddio eu llety

← Stori flaenorol

Marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan: Protestio yn parhau

Disgwyl i brotestio barhau ger Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd am y trydydd diwrnod yn olynol

Stori nesaf →

Galw ar Gymry ifanc i ddychwelyd i Fôn

Non Tudur

“Rŵan, yn fwy nac erioed, rhaid meddwl am ffyrdd dyfeisgar o gyflymu ein hadferiad economaidd”

Hefyd →

Mwy yn aros i deithio ar ôl gadael y brifysgol na chymryd blwyddyn allan cyn mynd

Laurel Hunt

Mae llai yn teithio cyn mynd i’r brifysgol erbyn hyn, ac mae awgrym fod gweithio mewn diwydiant am flwyddyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o gael gwaith