Mae rhagor o brifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau i gynnig ad-daliad i fyfyrwyr am lety nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio oherwydd y cyngor i aros gartref.

Mae Prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd wedi dweud y byddan nhw’n cynnig ad-daliad llawn am bob wythnos nad yw myfyrwyr yn defnyddio eu llety.

Yn y cyfamser mae Prifysgol Bangor yn bwriadu cynnig ad-daliad o 10% ac mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd hefyd yn bwriadu cynnig ad-daliad.

Fodd bynnag, mae Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Wrecsam eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cynnig ad-daliad.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i fyfyrwyr ddychwelyd i’r brifysgol yn raddol ar ôl y Nadolig.

Ond wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf y byddai ysgolion a cholegau yng Nghymru yn parhau ynghau tan fis Chwefror, mae prifysgolion yng Nghymru hefyd wedi penderfynu oedi dysgu wyneb yn wyneb, ac eithrio cyrsiau sy’n gysylltiedig ag iechyd.

‘Talu am lety na fyddant yn ei ddefnyddio’

Mae Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru wedi galw ar brifysgolion a landlordiaid preifat i gydweithio â Llywodraeth Cymru.

“Mae llawer o fyfyrwyr bellach yn wynebu’r posibilrwydd o dalu cannoedd o bunnoedd o rent am lety na fyddant yn ei ddefnyddio tan ganol mis Chwefror ar y cynharaf,” meddai Becky Ricketts, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, prifysgolion a landlordiaid preifat i weithio i ddigolledu’r myfyrwyr hynny, sydd drwy aros gartref, yn cadw Cymru’n ddiogel.

“Mae myfyrwyr wedi wynebu caledi ariannol ychwanegol ers mis Mawrth diwethaf oherwydd diffyg swyddi rhan-amser, felly byddai gwneud iddyn nhw dalu am wasanaethau na allant eu defnyddio yn gnoc arall iddynt.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru “mater i sefydliadau neu landlordiaid unigol yw cytundebau rhentu”.

Er bod dysgu wyneb yn wyneb wedi ei ohirio bydd dysgu ar lein yn parhau

‘Ad-daliad 100%’

Mewn ebost at fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth nos Fawrth (Ionawr 12) dywedodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Tim Woods, fod y newid yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru yn golygu na fydd nifer o fyfyrwyr yn aros yn llety’r Brifysgol.

“Gyda hyn mewn golwg, mae’r Brifysgol wedi penderfynu y bydd modd i fyfyrwyr nad ydynt yn defnyddio eu llety Prifysgol, oherwydd y cyngor i aros gartref, wneud cais am ad-daliad 100% o’u ffi am bob wythnos nad ydynt yn defnyddio eu llety,” meddai.

“Bydd hyn yn weithredol o ddydd Llun 4 Ionawr eleni hyd at y dyddiad y cewch ddychwelyd.”

Yn wreiddiol doedd Prifysgol Caerdydd ddim yn bwriadu cynnig ad-daliad o gwbl, ond dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol ei bod nhw wedi “gwrando’n astud” ar fyfyrwyr a’r Undeb Myfyrwyr.

“Rydym yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd ynghylch talu ffioedd llety Prifysgol o ystyried bod llawer ohonoch wedi cael cyngor i beidio â dychwelyd i’r Brifysgol am y tro,” meddai.

“Byddwn yn cynnig ad-daliad rhent i’r myfyrwyr hynny yn ein preswylfeydd nad ydynt wedi dychwelyd i’w llety. Mae hyn ar gyfer y cyfnod llawn na allwch ddychwelyd.

Darllen mwy