Mae Vaughan Gething wedi cynnig darlun llwm o oblygiadau ariannol yr argyfwng Covid-19 i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 13), pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Iechyd fod “diwedd y pandemig yn bell i ffwrdd, ac y bydd yn sicr yn parhau i mewn i’r flwyddyn o’n blaenau”.

Gyda’r Gwasanaeth Iechyd dros 150% o’i gapasiti gofal critigol (h.y does dim adnoddau rhydd yn hyn o beth), mae’r Ysgrifennydd Iechyd yn dweud bod y “cyd-destun yn andros o anodd”.

Ac mae’r haint, meddai, yn peri straen ariannol yn ogystal â’r straen ddynol.

“Felly rydym yn wynebu’r her anferth yma, sef y posibiliad y gallai’r sustem orboethi,” meddai.

“A’r posibiliad y gwnawn ni ddiweddu fyny yn y sefyllfa dw i’n ei ofni fwyaf – y sefyllfa a brofodd yr Eidal a Sbaen yn ystod y don gyntaf pan gawson nhw eu llethu go iawn.

“Mae gan hynny oblygiadau ariannol go iawn. Goblygiadau i’r ffordd yr ydym yn rhedeg y sustem yn awr, a’r goblygiadau go iawn i gyllideb flwyddyn nesa’.

“Mae yna gost i ofal covid, wrth gwrs, ond mae yna hefyd gost ddynol ac ariannol o oedi gofal nad yw’n gysylltiedig â covid.

“Felly dros y flwyddyn hon byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r busnes difrifol o adferiad ariannol ac adferiad gofal iechyd.”

Positifrwydd yng nghanol y tywyllwch

Mae Vaughan Gething am bwysleisio hefyd nad yw’r cyfan yn llwm i’r Gwasanaeth Iechyd, a bod y cyfnod tywyll hwn wedi esgor ar ambell ddiwygiad positif.

Tynnodd sylw at weledigaeth ‘Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’ fel enghraifft.

“Mae yna gost ddynol anferthol i’r pandemig,” meddai, “ond mae hefyd, o reidrwydd, wedi gyrru cyfres o newidiadau – newidiadau y bydden ni mwy na thebyg wedi eisiau eu gweld,” meddai.

“Efallai [yn y pendraw] y byddwn yn medru defnyddio arian er mwyn cyflwyno diwygiadau er dibenion penodol – yn hytrach na diwygio o reidrwydd.

“Felly dyw pob agwedd o’r pandemig ddim yn golygu y bydd y system iechyd a gofal mewn cyflwr gwaeth.

“Mae’r galw a’r pwysau arnom yn sylweddol.

“Felly mae’r heriau a’r ysgogiad am ddiwygiadau yn fwy fyth.”