Mae treialon ar gyfer dull newydd posib o drin Covid-19 wedi dechrau yn Hull.
Mae’r cleifion cyntaf wedi derbyn y driniaeth brotein yn yr ysbyty, a’r gobaith yw y bydd y driniaeth yn cyflymu adferiad pobol ar ôl cael eu heintio, a hynny wrth iddyn nhw dderbyn protein yn syth i’r ysgyfaint.
Mae’r driniaeth hefyd yn gostwng y tebygolrwydd y bydd cleifion yn cael eu taro’n ddifrifol wael yn yr ysbyty, yn ôl gwyddonwyr.
Yn ôl canlyniadau cychwynnol y treialon, mae cleifion sy’n derbyn y cyffur SNG001 bron i 80% yn fwy tebygol o wella ar ôl cael y coronafeirws, a mwy na dwywaith yn fwy tebygol o wella na’r rheiny sy’n derbyn plasebo – cyffur sydd heb unrhyw werth therapiwtig.
Ac mae lle i gredu y bydd y driniaeth hefyd yn torri traean oddi ar yr amser y bydd yn rhaid i gleifion ei dreulio yn yr ysbyty.
Wrth ymestyn y treialon, y disgwyl yw y bydd mwy na 600 o bobol yn cymryd rhan mewn dros 20 o wledydd.
Pe bai’n llwyddiannus, gallai’r cyffur fod ar gael i’w ddefnyddio’n eang erbyn yr haf.
Y cyffur
Mae cwmni Synairgen yn Southampton wedi datblygu’r cyffur SNG001, sy’n cynnwys protein interferon beta-1a sy’n cael ei gynhyrchu’n naturiol yn y corff er mwyn brwydro yn erbyn haint feirol.
Caiff y protein ei roi yng nghyrff cleifion Covid-19 gan ddefnyddio dyfais anadlu yn y gobaith y bydd yn esgor ar ymateb gan y system imiwnedd.
Dim ond 98 o bobol oedd ynghlwm wrth y treialon cychwynnol, ac mae gwyddonwyr yn gobeithio gweld rhagor o ganlyniadau positif wrth eu hymestyn i ysbytai.