Roedd yna gryn ddadlau rhwng y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur ddydd Mawrth, a daeth y cyfan i’w hanterth yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd.

Wnaeth Llywodraeth San Steffan addo £5.2bn i Gymru ar ddechrau’r argyfwng Covid-19 i helpu pobol a busnesau – swm a ddaeth yn sgil gwariant yn Lloegr.

Ac mae’r Ceidwadwyr yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â gwario’r swm cyfan, gan adael swm o £1bn yn segur.

Trwy gydol y dydd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 12), bu’r Torïaid a’r Blaid Lafur yn dadlau am y mater ar Twitter ac erbyn y prynhawn, fe wnaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, roi ei farn am y mater.

“Mae’r [ honiad] yn anghywir ond yn waeth na hynny, mae’n ynfyd ac yn fwriadol gamarweiniol,” meddai wrth Aelodau o’r Senedd.

“A dw i’n falch iawn fy mod wedi cael cyfle i egluro pethau brynhawn heddiw.

“Mae gan y Drysorlys £25bn ar gyfer coronafeirws,” meddai yn ddiweddarach yn y sesiwn.

“Pam na wnawn nhw ddod at benderfyniad, a dweud wrth y teuluoedd – sydd yn dibynnu ar yr arian hynny – sut y bydd yr arian yn dod tuag atyn nhw. Dyna hoffwn i ei weld.”

Arian

Pwysleisiodd fod ei lywodraeth yn gwario dau draean o’i chyllid pan fo hi ddau draean o’r ffordd, trwy’r flwyddyn ariannol, tri chwarter pan fo nhw dri chwarter o’r ffordd trwy’r flwyddyn ariannol, ac yn y blaen ac felly, y byddai’n “anghyfrifol” gwario ei chyllid cyfan cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Yn ddiweddarach yn y cyfarfod llawn, mi wnaeth Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, roi ei barn hithau am yr honiadau.

Dywedodd fod yr haeriad yn “chwerthinllyd” a bod y Torïaid wedi profi eu bod yn “wael â mathemateg”.

Ategodd fod Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu £600m ar gyfer ymateb i’r argyfwng ers cyllideb atodol y llynedd – dydy hi ddim yn glir pa gyllideb atodol sydd dan sylw yma.

Wrth holi’r Gweinidog, dywedodd Nick Ramsay, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, fod yna “bryderon o hyd” am y £1bn.

Tanio’r ddadl ar Twitter

Wele isod y neges a daniodd y ffrae ar Twitter…