Mae Michael Gove dan bwysau i gyhoeddi adroddiad ar ddatganoli a ddylai fod wedi cael ei gyhoeddi y llynedd.
Mae aelodau o bedwar pwyllgor seneddol yn San Steffan wedi mynegi eu “siom” nad oedd hynny wedi digwydd, ac maen nhw wedi ysgrifennu at Michael Gove yn galw am sicrhau bod canlyniadau Arolwg Dunlop ar gael i’r cyhoedd.
Bwriad yr arolwg, a gafodd ei gomisiynu gan y cyn-brif weinidog Theresa May, oedd edrych ar sut y gallai’r Undeb gael ei hatgyfnerthu.
Roedd yr Arglwydd Dunlop yn un o ymgynghorwyr ei rhagflaenydd hithau, David Cameron, ar faterion datganoledig.
Mae disgwyl i’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol a phwyllgorau Materion Cymreig, Albanaidd a Gogledd Iwerddon holi Michael Gove ar Ionawr 28.
Maen nhw’n dweud bod angen yr arolwg ac ymateb Llywodraeth Prydain erbyn Ionawr 14.
Os nad yw hynny’n bosib, mae’r pwyllgorau’n dweud bod angen “amserlen amgen glir ar gyfer ei gyhoeddi fel y gallwn drefnu craffu’n briodol”.
Dywed llefarydd ar ran y Swyddfa Gabinet y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi “maes o law”.