Mae cwmni te Welsh Brew wedi bod yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i greu te gwyrdd newydd.

Mae’r te gan y cwmni o Abertawe wedi’i gymysgu â mêl Cymreig pur a phlanhigion ac wedi’i ddatblygu gan ddefnyddio gwybodaeth wyddonol arbenigwyr yng Nghaerdydd.

Mae’r te Bee Good to YOURSELF yn 100% naturiol ac mae’r rhai fu’n ei ddatblygu’n dweud mai dyma’r te cyntaf i ddefnyddio mêl Cymreig go iawn yn hytrach na chyflasyn synethetig.

“Mae Bee Good to YOURSELF yn gyfuniad adfywiol o de gwyrdd, mêl Cymreig pur, mwyar duon a blodau gwyllt gan gynnwys erwain, sy’n rhoi rhywbeth yn ôl i natur trwy gefnogi prosiectau peillwyr cymunedol ledled y wlad,” meddai Alan Wenden, sylfaenydd y cwmni.

Manteision te

Ar ôl dŵr, te yw’r ddiod sy’n cael ei hyfed fwyaf yn y byd.

Mae lle i gredu bod ystod o fanteision iechyd i yfed te, gan gynnwys ei allu i dargedu bygiau cyffredin sy’n achosi afiechydon.

“Mae mêl wedi cael ei ddefnyddio am filenia i drin amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys anwydau,” meddai’r Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

“Mae ein partneriaeth gyda Welsh Brew Tea yn rhan o’n gwaith i ddatblygu mêl yng Nghymru sy’n gallu lladd bacteria ymwrthol iawn.

“Bydd hyn yn efelychu mêl Manuka Seland Newydd y mae ei nodweddion gwrthfacteria yn deillio o gyfansoddion naturiol planhigion.

“Mae’r gwenyn yn trosglwyddo’r cyfansoddion hyn o’r planhigion wrth iddynt wneud y mêl.”

Ymchwil

Trwy @Pharmabees, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gallai peillio rhai planhigion penodol arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol sydd bellach ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol.

Mae Welsh Brew Tea hefyd yn cefnogi’r cynllun ‘mabwysiadu cwch gwenyn’, a gafodd ei ddatblygu gan un o gwmnïau technoleg ddysgu mwyaf blaenllaw Cymru, Bee1, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd i annog disgyblion ysgol i ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a sut i’w cadw.

Nod y cwmni yw annog ysgolion, busnesau ac unigolion i fabwysiadu eu cwch gwenyn (a’u gwenynwr) eu hunain wrth iddyn nhw dyfu a dysgu sut i greu dyfodol naturiol a chynaliadwy.