Mae Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn brysio tuag at uchelgyhuddo’r Arlywydd Donald Trump yn dilyn terfysgoedd yn Washington.

Mae Donald Trump am adael ei swydd yr wythnos nesaf, ac fe allai adael fel yr unig arlywydd erioed i gael ei uchelgyhuddo ddwywaith.

Neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 12), cymeradwyodd y Tŷ benderfyniad a gafodd ei arwain gan y Democratiaid yn annog Mike Pence i alw’r 25ain Gwelliant i symud Donald Trump o’i swydd gyda phleidlais gabinet.

Ond mae Mike Pence eisoes wedi dweud na fyddai’n barod i wneud hynny.

Roedd y penderfyniad, a gafodd ei gymeradwyo o 223-205, yn ei annog i “ddatgan yr hyn sy’n amlwg i’r genedl, nad yw’r Arlywydd yn gallu cyflawni dyletswyddau a phwerau ei swyddfa yn llwyddiannus”.

Dywedodd Mike Pence wrth lefarydd y Tŷ Nancy Pelosi na fyddai hynny er lles y genedl a’i bod hi’n “bryd uno ein gwlad wrth i ni baratoi i sefydlu’r Arlywydd Joe Biden”.

Ond cyhoeddodd pum aelod Gweriniaethol, gan gynnwys arweinydd trydydd-radd y Tŷ GOP Liz Cheney, y bydden nhw’n pleidleisio i’w uchelgyhuddo heddiw (dydd Mercher, Ionawr 13).

“Galwodd Arlywydd yr Unol Daleithiau’r mob, cyn tanio fflam yr ymosodiad hwn,” meddai Liz Cheney mewn datganiad.

“Dyw Arlywydd yr Unol Daleithiau erioed wedi bradychu ei swyddfa na’r Cyfansoddiad yn y modd hwn.”

Ond mae Donald Trump wedi rhybuddio bod yr ymdrechion i’w uchelgyhuddo yn gwahanu’r genedl.

“Rwy’n credu ei fod yn achosi perygl aruthrol i’n gwlad,” meddai cyn mynnu nad oedd e “eisiau dim trais.”