Mae mwy nag un o bob pedwar o weithwyr yng Nghymru’n ofni colli eu swyddi yn ystod y chwe mis nesaf, yn ôl ymchwil gan TUC Cymru.

Mae’r ymchwil yn awgrymu’r effaith mae COVID-19 wedi’i chael ar y gweithlu yng Nghymru, ac fe ddaw ar ôl i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddatgelu mai yng Nghymru mai’r cynnydd mwyaf mewn diweithdra o blith holl wledydd Prydain.

Dywedodd 27% o’r 1,000 a mwy o bobol a gafodd eu holi gan YouGov ar ran TUC Cymru eu bod nhw’n gofidio am golli eu swyddi yn y dyfodol agos, tra bod 32% yn disgwyl i’w sefyllfa ariannol waethygu erbyn yr haf.

Yn ôl 43%, diweithdra a’r bygythiad i swyddi yw un o’r heriau mwyaf mae Cymru’n eu hwynebu ar hyn o bryd.

Ar y cyfan, mae gweithwyr yn cefnogi’r cynllun ffyrlo ac yn galw am fwy o gefnogaeth i weithwyr ar ffyrlo sy’n derbyn y cyflogau isaf.

Ac maen nhw’n galw am fwy o gyllid i wasanaethau cyhoeddus a chreu mwy o swyddi drwy fuddsoddi mewn isadeiledd gwyrdd fel mater o flaenoriaeth.

Ymateb TUC Cymru

Mae’n “ddealladwy” fod gweithwyr yn gofidio am eu dyfodol, yn ôl Savannah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Mae’r argyfwng Covid wedi amlygu’r gwendid a’r anghydraddoldebau yn ein heconomi ac mewn marchnad lafur sydd wedi dibynnu’n ormodol ar waith ansicr ac ansefydlog,” meddai.

“Mae angen i ni weld rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol yn seilwaith a sector cyhoeddus Cymru.

“Mae ymchwil TUC Cymru wedi dangos y cyfleoedd i greu degau o filoedd o swyddi drwy ariannu trawsnewidiad cyfiawn i economi wyrddach a thecach.

“Mae angen i lywodraethau – yng Nghymru a San Steffan – weithredu i ddiogelu bywoliaethau ac i gynnig diogelwch i weithwyr Cymru.”