Mae NSPCC Cymru wedi galw am wirfoddolwyr ar frys yn sgil pryderon am iechyd meddwl yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae plant a phobol ifanc yng Nghymru a gysylltodd â Childline am eu hiechyd meddwl yn rhannu pryderon megis unigrwydd, hwyliau isel, hunan-barch isel, iselder a phryder.
Mae rhai wedi bod yn teimlo’n ynysig ac wedi’u llethu oherwydd pryderon am aelodau o’r teulu’n dal y feirws, neu gau ysgolion a chanslo arholiadau – tra bod eraill wedi teimlo eu bod wedi’u torri i ffwrdd o rwydweithiau cymorth ac yn colli teulu a ffrindiau.
“Mae arnaf ofn am fy iechyd meddwl. Yr wyf yn gorfodi fy hun i fynd allan o’r gwely ac wedi colli diddordeb ym mhopeth,” meddai un bachgen 15 oed wrth Childline.
“Rwy’n ofni nad wy’n mynd i lwyddo mewn bywyd a theimlo fel freak.
“Roeddwn i’n arfer hunan-niweidio ond llwyddais i stopio, ond rwy’n cael teimladau cryf i hunan-niweidio eto.”
Cyfyngiadau’r coronafeirws
Ers y cyfyngiadau symud cyntaf y llynedd, iechyd meddwl yw’r prif bryder y mae plant a phobl ifanc yn siarad â Childline amdano.
Mae’r data diweddaraf gan yr elusen plant yn datgelu bod cwnselwyr yn ei wasanaeth Childline ledled y DU bellach wedi darparu cyfanswm o 54,926 o sesiynau cwnsela i blant o bob oed a gysylltodd â’r gwasanaeth am gymorth gyda materion iechyd meddwl ac emosiynol o fis Ebrill i ddiwedd mis Rhagfyr.
Mae Caerdydd a Phrestatyn yn gartref i ddwy o’r 12 canolfan Childline ledled gwledydd Prydain ac yn ystod y pandemig, mae’r gwasanaeth wedi parhau i addasu i sicrhau y gall fod yma i blant o hyd gan gynnwys datblygu hyfforddiant ar-lein fel y gall gwirfoddolwyr ateb negeseuon e-bost gan bobol ifanc o bell.
Diffyg gwirfoddolwyr
Er gwaethaf hyn, ers mis Mawrth diwethaf mae nifer y gwirfoddolwyr ledled gwledydd Prydain wedi gostwng 40%.
“Ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol diweddaraf mae llawer o blant wedi bod yn estyn allan ac yn siarad am eu hiechyd emosiynol a meddyliol ac mae Childline yn parhau i’w cefnogi gyda’u pryderon,” meddai Louise Israel, Uwch Oruchwyliwr Childline yng Nghymru.
“Mae Childline yn rhoi lle rhydd a diogel iddyn nhw siarad am unrhyw beth allai fod yn eu poeni – waeth pa mor fawr neu fach y gallai ymddangos.
“Gall y gwasanaeth a ddarparwn newid bywydau plant a phobl ifanc sy’n cysylltu â Childline, ond yn aml i’n gwirfoddolwyr hefyd.
“Mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom ar frys yn ein canolfannau yng Nghaerdydd a Phrestatyn i’n helpu i ateb cysylltiadau gan blant a phobl ifanc sy’n aml yn agored iawn i niwed.
“Mae ein cwnselwyr yn rhyfeddol ac mae gennym dîm gwych yma, ond mae gwir angen mwy o wirfoddolwyr Cymraeg a Saesneg i ymuno â ni ac yn enwedig ar gyfer sifftiau gyda’r nos ac ar benwythnosau.”