“Mae’n hollol annealladwy bod Llywodraeth Cymru yn gadael i brifysgolion wneud eu trefniadau eu hunain o ran myfyrwyr yn dychwelyd” – dyna farn gref Helen Mary Jones AoS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg Ôl-16.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud wrth y rhan fwyaf o fyfyrwyr i aros lle maen nhw.

Ar hyn o bryd mae’r sefyllfa yn wahanol ar gyfer myfyrwyr o Loegr a Chymru.

Mae gofyn i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr aros adre tan ganol Chwefror, tra bod myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i fod i allu dychwelyd o ddydd Llun nesaf ymlaen.

“Gydag ysgolion ar gau am o leiaf tair wythnos arall, mae’n hollol annealladwy bod Llywodraeth Cymru yn gadael i brifysgolion wneud eu trefniadau eu hunain o ran myfyrwyr yn dychwelyd,” meddai

“O ddydd Llun ymlaen bydd miloedd o bobl ifanc yn teithio o un ardal i’r llall. Nid oes unrhyw ffordd o dan yr amgylchiadau y dylid caniatáu hyn.

“Wrth gwrs mae prifysgolion yn gyrff annibynnol, ond mae’r un peth yn wir am golegau addysg bellach.”

“Cywilyddus”

“Mae’r diffyg arweiniad gan y gweinidog (Kirsty Williams) ar hyn yn gywilyddus,” ychwanegodd Helen Mary Jones.

“Nid yw’n rhy hwyr o hyd i’r gweinidog ei gwneud yn glir y dylai’r rhan fwyaf o fyfyrwyr aros lle maen nhw, a dim ond myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau fel nyrsio a meddygaeth – lle mae addysgu wyneb yn wyneb yn hanfodol – ddylai fod yn dychwelyd i’r brifysgol.

“Rwy’n galw arni unwaith eto i gywiro hyn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.