Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i farwolaeth Mohamud Mohammed Hassan o Gaerdydd ar ôl iddo fod yn y ddalfa.

Bu farw’r dyn 24 oed ddydd Sadwrn (Ionawr 9) ar ôl gadael y ddalfa y diwrnod blaenorol.

Dywedodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ei fod yn disgwyl ymchwiliad “trylwyr” – rhywbeth mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn addo ei gynnal.

Datganiad

Mae’r ymchwiliad wedi’i gadarnhau mewn datganiad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

“Cawsom wybod yn oriau mân ddydd Sul gan Heddlu’r De fod Mr Hassan wedi marw mewn eiddo ar Ffordd Casnewydd nos Sadwrn,” meddai llefarydd.

“Cawsom wybod hefyd iddo gael ei arestio gan yr heddlu yn yr un cyfeiriad nos Wener a’i ryddhau o’r ddalfa ym Mae Caerdydd heb gyhuddiad am oddeutu 8.30yb y diwrnod canlynol.

“Ar yr adeg gynnar honno, fe wnaethon ni gynghori’r llu i sicrhau bod yr holl ddeunydd fideo ar gorff y plismon o’r arestio a’r daith i’r orsaf, ynghyd â deunydd camerâu cylch-cyfyng o’r ddalfa, ar gael ar gyfer yr ymchwiliad.”

Pryderon

Dywedodd y llefarydd ei bod yn anfon ei chydymdeimlad at deulu Mohamud Mohammed Hassan.

“Rydym yn ymwybodol o’r pryderon sy’n cael eu mynegi a’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn am y defnydd o rym gan swyddogion yr heddlu,” meddai.

“Byddwn yn edrych yn ofalus ar lefel y grym a gafodd ei ddefnyddio wrth gyfathrebu a byddwn yn annog pobol i ddangos amynedd wrth i ni wneud ein hymholiadau, a all gymryd peth amser.

“Bydd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar y cyfathrebu a fu rhwng yr heddlu a Mr Hassan wrth ei arestio, y daith yn fan yr heddlu i’r ddalfa a’r cyfnod o amser a dreuliodd yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd gan gynnwys a gafodd asesiadau perthnasol eu gwneud cyn ei ryddhau.

“Byddwn yn archwilio ar frys yr holl ddeunydd camerâu cylch-cyfyng perthnasol a fideo ar y corff.

“Bydd cofnodion o’r hanes yn cael eu derbyn gan y swyddogion ynghlwm, a byddwn yn ceisio siarad â nifer o dystion i bresenoldeb yr heddlu nos Wener ac i symudiadau Mr Hassan ar ddydd Sadwrn ar ôl gadael y ddalfa.

“Hoffwn sicrhau pobol y byddwn yn cynnal ymchwiliad trylwyr ac annibynnol i’r cyswllt rhwng yr heddlu a Mr Hassan.

“Byddwn yn diweddaru ei deulu, Heddlu’r De a’r crwner drwy gydol ein hymchwiliad.

“Rydym yn aros am adroddiad interm o archwiliad post-mortem.

“Y casgliad cychwynnol yw nad oes yna anafiadau trawma corfforol i egluro achos y farwolaeth, ac mae angen profion tocsicoleg.”

Darllen mwy