Heddiw (dydd Mercher 13 Ionawr), mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi derbyn cynnig yn galw ar y Llywodraeth am ragor o rymoedd i reoli ail gartrefi.
Derbyniwyd y cynnig, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell, yn galw ar Lywodraeth Cymru i basio deddfwriaeth a fyddai’n mynnu bod angen caniatâd cynllunio i newid eiddo o annedd gynradd i fod yn ail gartref.
Cafodd y datblygiad groeso gan Gymdeithas yr Iaith. Dywedodd Bethan Williams ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:
“Rydyn ni’n croesawu hyn gan y Cyngor, mae’r neges i’r Llywodraeth yn glir o sawl ardal erbyn hyn. Mae disgwyl i Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wneud cyhoeddiad am argyfwng ail gartrefi yn ystod y mis yma. Mae’r mater yn nwylo’r Llywodraeth, felly pryd allwn ni ddisgwyl cyhoeddiad?”
Y cynnig
Mae’r cynnig a dderbyniwyd gan y Cyngor fel a ganlyn:
“Noder bod 1,118 o gartrefi yn Sir Gâr yn cael eu diffinio fel ail gartrefi. Y diffiniad o ail gartref yw eiddo nad yw’n unig neu brif annedd i’r perchennog.
Noder yn ychwanegol bod cynnydd diweddar wedi bod ar draws Cymru yn y nifer o dai sy’n cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau i’w rhentu neu osod fel AirBnB (gan gynnwys Sir Gâr). Mewn rhai ardaloedd mae cymaint â 40% o’r stoc tai yn ail eiddo. O ganlyniad mae pobl leol (pobl ifanc yn arbennig) yn ei chael hi’n anodd os nad yn amhosibl i brynu eiddo gan eu bod yn aml yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith niweidiol ar ddemograffi’r ardal, cydlyniad cymdeithasol a’r iaith Gymraeg.
Er bod Cyngor Sir Gâr yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ychwanegu cynnydd bychan o 1% ar y Dreth Trafodion Tir ar y sawl sy’n prynu ail gartref nid ydym yn credu bod hwn yn mynd yn ddigon pell i ateb yr argyfwng tai sy’n wynebu rhai o’n cymunedau gwledig. Rydym felly’n gofyn i Lywodraeth Cymru i:
– Newid deddfau cynllunio i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid eiddo annedd cynradd i ail-gartref / llety gwyliau;
– Caniatáu i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol, i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward, a defnyddio cytundebau Adran 106 i atal cartrefi newydd rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi mewn wardiau sydd â chanran annerbyniol o ail gartrefi;
– Cyflwyno system o drwyddedu ar gyfer rheoli’r broses o droi eiddo preswyl yn uned fasnachol megis uned wyliau/t? gwyliau neu AirBnB;
– Cau’r bwlch sy’n caniatáu i ail gartrefi i gael eu cofrestru fel busnesau er mwyn optio allan o dalu trethi domestig a Threthi Cyngor, a chymryd mantais o ollyngdod trethi busnes;
– Cyflwyno deddfwriaeth i gynyddu ymhellach Treth Trafodion Tir (LTT) pan yn prynu ail gartrefi.Unwaith y byddai’r newidiadau polisi hyn yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, byddai Cyngor Sir Gâr yna’n ystyried codi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan o leiaf 200%.”
‘Mater o gonsyrn mawr’
Yn ôl Cefin Campbell wrth siarad ar Radio Cymru, mae’r sefyllfa’n “fater o gonsyrn mawr” erbyn hyn, ac fe fyddai’r gyfres o fesurau mae’n galw amdanyn nhw’n “mitigeiddio yn erbyn niweidiau mwya’ eithafol y broblem”, gan gynnwys y ffaith fod costau tai mewn rhai ardaloedd yn rhy uchel i bobol leol.
“Ry’n ni’n sylweddoli, wrth gwrs, fod yr argyfwng tai haf, yn sicr mewn rhai ardaloedd yng Nghymru ac yn gynyddol mewn ardaloedd eraill, yn dod yn fater o gonsyrn mawr oherwydd beth mae’n ei olygu, mewn gwirionedd, yw bod pobol leol, pobol ifanc yn arbennig, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, sydd yn golygu wedyn bo nhw’n gorfod dadwreiddio, symud o’u cymunedau, i ffeindio tai ac yn golygu wedyn bod y bobol ifanc yn cael eu colli o’u cymunedau lleol,” meddai.
“Yn y rhybudd-gynnig gerbron bore’ ’ma, dw i yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi’r hawl i awdurdodau lleol i fynnu caniatâd cynllunio cyn bod unrhyw newid yn digwydd o ran newid tŷ preswyl i fod yn ail gartref neu yn uned wyliau.
“Hefyd, gosod trothwy neu cap ar y nifer o ail gartrefi ym mhob cymuned a chyflwyno system o drwyddedu ar gyfer rheoli’r broses o droi eiddo preswyl yn uned fasnachol.
“Nawr, yn anffodus, mae nifer o berchnogion tai haf yn gwneud hyn er mwyn osgoi talu trethi domestig a threthi cyngor.
“Ac yn olaf, er bod Llywodraeth Cymru wedi codi treth trafodion tir ar ail gartrefi yn ddiweddar o 1%, dw i ddim yn meddwl bod hynny yn mynd yn ddigon pell mewn gwirionedd, felly dw i’n gofyn am yr hawl iddyn nhw i godi hynny dipyn yn fwy.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn ymwybodol o’r pryderon am ail gartrefi mewn cymunedau mewn rhai rhannau o Gymru,” meddai Llywodraeth Cymru wrth ymateb i adroddiadau Radio Cymru.
“Mae’r rhain yn faterion pwysig i Lywodraeth Cymru.
“Mae gweinidogion wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol i archwilio’r atebion effeithiol a chytbwys gan adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes yn nhymor y Senedd hon.”
Ond yn ôl Cefin Campbell, dylai Llywodraeth Cymru ymateb “ar unwaith” a does dim angen grŵp trafod trawsbleidiol, er ei fod yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw’r argymhellion a ddaw”.
“Mae’r datrysiadau’n eitha’ clir, rhoi’r hawl i awdurdodau lleol i benderfynu drostyn nhw eu hunain gan mai nhw sydd yn nabod eu cymunedau’n well na neb arall,” meddai.
“Mae’n rhan o’r egwyddor o ddatganoli grym ond yn fwy na hynny, mae’n rhoi’r rheolaeth yna ar faint o dai haf fyddai’n cael eu caniatáu a faint o dai fyddai’n cael eu caniatáu a thai haf fel unedau busnes hefyd.
“Felly dw i’n meddwl fod yr atebion yn ddigon clir a gobeithio hefyd fydd y grŵp trafod yna’n cyd-weld yn ogystal a’n bod ni’n symud ymlaen ar fyrder, a dweud y gwir, i ymateb i’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau gwledig ni.”
“Gwraidd y broblem yw’r anghyfartaledd yna o ran cyfoeth”
Mae Cefin Campbell yn wfftio’r awgrym fod yr hyn mae’n galw amdano’n ormesol mewn marchnad rydd, gan ddweud mai’r farchnad rydd sy’n ormesol.
“Ar ddiwedd y dydd, mae’r farchnad rydd yn gormesu yr hyn ry’n ni’n teimlo sydd yn bwysig fel ffordd o fyw, fel cadw’n pobol ifanc yn ein cymunedau gwledig, fel amddiffyn ecosystem diwylliannol, a’r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o hynny, sydd wedi bod mewn bodolaeth ers canrifoedd lawer,” meddai.
“Os y’n ni’n rhoi deddfau yn eu lle i amddiffyn blodau ac anifeiliaid prin ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, dw i’n meddwl y dylen ni fod yn rhoi’r un hawliau i’n cymunedau Cymraeg yn ogystal.
“Mae [prisiau tai] yn amrywio o le i le, wrth gwrs.
“Beth ry’n ni wedi gweld, a dw i wedi siarad dipyn gyda gwerthwyr tai yn Sir Gaerfyrddin dros y chwe neu naw mis diwethaf, [yw] prisiau tai yn codi i lefel yn uwch na’r hyn maen nhw’n cael eu hysbysebu, sy’n dangos i fi bod galw aruthrol am dai mewn ardaloedd gwledig.
“Beth mae hynny’n golygu, wrth gwrs, yw fod llai a llai o gyfleoedd i’n pobol ifanc ni a’n teuluoedd lleol i gystadlu yn y farchnad yma achos ar ddiwedd y dydd, hanfod y rhybudd-gynnig yma yw sicrhau tegwch yn y farchnad dai.
“Gwraidd y broblem yw’r anghyfartaledd yna o ran cyfoeth. Allwn ni ddim gwneud llawer ynghylch hynny ond mi allwn ni fod yn rhoi mesurau yn eu lle sydd yn mitigeiddio yn erbyn niweidiau mwya’ eithafol y broblem sydd gyda ni.”