Mae “ergyd ddwbl” pandemig y coronafeirws a Brexit yn cyflymu’r galw gan bobol o’r dinasoedd am ail gartrefi yng ngorllewin Cymru, yn ôl aelod blaenllaw o Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae Cefin Campbell yn dweud ei bod hi’n mynd yn anoddach i bobol leol brynu eu cartref cyntaf, ac mae’n galw am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Bydd e’n cyflwyno Rhybudd Gynnig yng nghyfarfod llawn y cyngor yfory (dydd Mercher, Ionawr 13), yn galw ar Lywodraeth Cymru i basio deddfwriaeth a fyddai’n mynnu bod angen caniatâd cynllunio i newid eiddo o annedd gynradd i fod yn ail gartref.

Fe fydd e hefyd yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer rheoli trosi eiddo preswyl yn uned fasnachol ac yn cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchennog ail gartref gofrestru fel busnes er mwyn optio allan o dalu trethi domestig a Phremiymau’r Dreth Gyngor.

“Trwy wneud hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau marchnad dai decach ac yn rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc i brynu eu cartref cyntaf a byw’n lleol,” meddai.

‘Ffoi o’r ardaloedd trefol’

“O ganlyniad i’r pandemig, mae llawer o bobol yn ffoi o’r ardaloedd trefol i dreulio amser yn y Gymru wledig, gan fedru parhau i weithio o’u hail gartref,” meddai Cefin Campbell.

“Ar yr un pryd, yn sgil Brexit, mae mwy o bobol yn chwilio am gartref gwyliau yng Nghymru yn hytrach na Sbaen neu Ffrainc.

“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr eiddo a brynir fel tai haf neu lety gwyliau, gan arwain at gynnydd cyflym ym mhrisiau tai.

“Mae pobol leol, yn enwedig pobol ifanc, yn ei chael hi’n fwyfwy anodd os nad yn amhosibl prynu eiddo gan eu bod yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai.

“O ganlyniad, yn aml mae’n rhaid iddynt adael eu cymunedau lleol i ddod o hyd i dai fforddiadwy.

“Mae’n amlwg bod hyn yn cael effaith andwyol ar ddemograffeg yr ardal, cydlyniant cymdeithasol, a’r Gymraeg.”