Mae Arlywydd Portiwgal wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws, er nad oedd ganddo fe symptomau.

Daeth Marcelo Rebelo de Sousa, sy’n 72 oed, i rym yn 2016.

Fe fydd yn brwydro am ail dymor wrth y llyw yn etholiad y wlad ar Ionawr 24.

Daw’r canlyniad positif er iddo fe gael prawf negyddol yn gynharach ar yr un diwrnod, yn ôl ei swyddfa.

Mae’n hunanynysu yn ardal Belem ger y brifddinas Lisbon.

Ymhlith cyfrifoldebau’r arlywydd, sy’n swydd seremonïol i raddau helaeth ym Mhortiwgal, mae penodi’r prif weinidog a diddymu’r Senedd.