Roedd bron i hanner y marwolaethau mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr yn ystod wythnos olaf 2020 yn gysylltiedig â Covid-19, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd sôn am y coronafeirws ar dystysgrifau marwolaeth 3,144 o bobol yn ystod yr wythnos hyd at Ionawr 1 eleni.

O blith y 4,956 o farwolaethau mewn ysbytai a gafodd eu cofrestru, roedd 47.7% ohonyn nhw’n ymwneud â’r feirws – sy’n gynnydd o 40.2% o’r wythnos flaenorol.

Roedd marwolaethau’n gysylltiedig â Covid-19 mewn cartrefi gofal yn cyfrif am fwy na chwarter (27.6%) o’r holl farwolaethau mewn cartrefi gofal yn ystod yr un cyfnod.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi data newydd yr wythnos nesaf ynghylch marwolaethau wythnosol mewn cartrefi gofal.

Mae eu ffigurau’n dangos bod nifer y marwolaethau Covid-19 a gafodd eu cofrestru wedi codi 8% (232 o farwolaethau) ers yr wythnos flaenorol, tra bod nifer y marwolaethau ar y cyfan wedi gostwng.

O blith y 10,069 o farwolaethau a gafodd eu cofrestru, roedd 31.2% ohonyn nhw’n ymwneud â’r feirws – y gyfradd uchaf o farwolaethau Covid-19 ers diwedd wythnos Mai 1.

Ond mae’r Swyddfa Ystadegau’n rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth drin yr ystadegau, gan fod y cyfnod yn cynnwys gwyliau banc, sy’n golygu y gall fod oedi wrth gofrestru marwolaethau.