Mae timau chwilio wedi dod o hyd i focs du oddi ar awyren Sriwijaya Air oedd wedi plymio i Fôr Java wrth gludo 62 o bobol.
Fe allai hynny helpu ymchwilwyr wrth iddyn nhw geisio darganfod pam fod yr awyren Boeing 737-500 wedi mynd i’r môr yn fuan ar ôl gadael maes awyr Jakarta ddydd Sadwrn (Ionawr 9).
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd ai data’r awyren neu recordydd llais y peilot yw’r bocs du sydd bellach yn nwylo’r Pwyllgor Diogelwch Cludo Cenedlaethol.
Fe fu o leiaf 160 o bobol yn chwilio am y ddyfais yn y môr.
Ond mae mwy na 3,600 o bobol, 13 o hofrenyddion, 54 o longau ac 20 o gychod yn chwilio’r ardal i’r gogledd o Jakarta lle plymiodd yr awyren i’r môr.
Maen nhw eisoes wedi dod o hyd i ddarnau o’r awyren a gweddillion dynol, ac mae’r broses o adnabod y bobol eisoes ar y gweill.
Maen nhw eisoes wedi enwi un dyn, sef Okky Bisma, 29, oedd yn gweithio i’r cwmni awyr ynghyd â’i wraig Aldha Refa, sydd wedi bod yn talu teyrnged iddo.
Mae aelodau o deuluoedd y rhai oedd ar yr awyren wedi bod yn cael profion DNA er mwyn adnabod eu hanwyliaid, ac mae disgwyl y canlyniad o fewn tua wythnos.
Mae disgwyl i bwyllgor arall ymuno â’r ymchwiliad, sydd eisoes yn dweud nad oedd yr awyren wedi chwalu yn yr awyr cyn taro wyneb y môr.