Mae 28 o yrwyr bysiau Arriva wedi profi’n bositif am y coronafeirws yn ardal Wrecsam, gan darfu ar wasanaethau yno.
Mae Arriva yn annog pawb i wisgo mygydau wyneb ar fysiau yn sgil yr achosion.
Ac mae’r cwmni’n mynnu bod ganddyn nhw weithdrefnau glanhau ar waith i gadw cerbydau’n lân, yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch.
“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth”
“Gallwn gadarnhau bod 28 o weithwyr yn Wrecsam wedi profi’n bositif am Covid-19,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
“Rydym yn llwyr gefnogi pob aelod o staff sydd angen hunanynysu fel rhan o Brofi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu fel y cynghorir gan weithiwr iechyd cyhoeddus proffesiynol.
“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n gweithwyr yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn cael ein harwain bob cam o’r ffordd gan sefydliadau arbenigol fel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae hyn wedi achosi aflonyddwch i’n rhwydwaith bysiau yn Wrecsam ac rydym yn gweithio i fynd i’r afael â hyn cyn gynted ag y gallwn.”