Bydd cyfres newydd o Oedfa Dechrau Canu Dechau Canmol yn dychwelyd i S4C ddydd Sul yma (17 Ionawr), yn sgil y cyfnod clo diweddaraf.
Cafodd yr oedfa ei darlledu ar S4C yn ystod y gwanwyn y llynedd, pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf i rym.
Bydd yr oedfa’n cael ei darlledu bob bore Sul am 11yb, a’r emynau’n cael eu dewis o archif Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Bydd y gwasanaeth cyntaf dan ofal y Parchedig Evan Morgan o Gapel Salem, Treganna wrth iddo ystyried gobeithion y flwyddyn newydd.
Dod ag addolwyr ynghyd
“Dan ni’n gwybod bod nifer fawr o’n capeli ac eglwysi wedi gorfod cadw eu drysau ynghau dros y pandemig, a’r addoldai sydd wedi aros yn agored wedi cyfyngu ar y nifer o bobol sy’n cael mynychu,” meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C.
“Mae Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol, felly, yn ffordd effeithiol iawn i addolwyr ddod at ei gilydd yn un cynulleidfa fawr ar fore Sul.
“Fel y gwelsom o’r ymateb arbennig a gawsom i’r gyfres gyntaf, mae’n cynnig cwmnïaeth, cysur, a gobaith i filoedd o bobol ac mae’n braf iawn gallu ateb y galw.”
Pan gafodd y gyfres gyntaf ei darlledu, dywedodd Owen Evans, prif weithredwr S4C, fod yr oedfaon yn boblogaidd ymhlith gwylwyr traddodiadol y sianel.